THE latest community news from Soar y Mynydd
Capel
CAFWYD gwasanaeth bendithiol y Sul diwethaf o dan ofal y Parch Judith Morris, Penrhyncoch.
Hwn oedd ein cwrdd diolchgarwch a’r oedfa olaf am y flwyddyn yma.
Gwnaed y cyhoeddi gan David Evans, Bow Street a chwaraewyd yr allweddellau gan Mair Richards, Llanddewi Brefi.
Ar diwedd y tymor braint mawr yw rhoi diolchiadau gwresog i sawl person: i’r pregethwyr a wnaeth lanw’r pulpud o Sul i Sul; organyddes ffyddlon iawn, sef Mair Richards; Neli Jones, Pontrhydfendigaid ac Alice Jones, Tregaron am eu charedigrwydd i lanw bylchau ar adegau; Mair Hughes, David John Hughes a David Evans am eu pharodrwydd i wneud y cyhoeddiadau.
Diolch i’r gynulleidfa luosog a ddaeth o bell ag agos i gyd-addoli â ni ac i wneud yr oedfaon yn rhai arbennig iawn.
Bydd y capel yn ail-agor ar 12 Mai.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.