THE latest community news from Soar Y Mynydd
Gwasanaeth
HYFRYD oedd croesawu y Parch Carys Ann, Glynarthen i’r pulpud y Sul diwethaf.
Diolch yn fawr iddi am ei gwasanaeth bendithiol.
Croesawyd rhai o’i aelodau o wahanol eglwysi a phawb arall a ddaeth i gyd-addoli â ni gan Mair Hughes, Alltddu a chwaraewyd yr allweddellau gan Mair Richards, Llanddewi Brefi.
Disgwylir y Parch Eric Greene, Bala i wasanaethu’r Sul nesaf am 2yp.
Y Sul canlynol disgwylir y Parch Goronwy Evans, Llanbedr Pont Steffan.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.