THE latest community news from Soar Y Mynydd

Gwasanaeth

ER y tywydd gwlyb, awyrgylch cynnes iawn a gawsom yn Soar yng ofal Lyn Ebenezer, Pontrhydfendigaid y Sul diwethaf.

Diolch i bawb a ddaeth i gyd-addoli â ni. Hyfryd oedd cael cwmni bws bach o fobol o Pontrhydfendigaid.

Gwnaed y croesawu gan Mair Hughes, Alltddu a chwaraewyd yr allweddellau gan Neli Jones, Pontrhydfendigaid.

Disgwylir y Parch Richard Lewis, Bow Street i wasanaethu’r Cwrdd Diolchgarwch y Sul nesaf am 2yp. Hwn fydd y gwasanaeth olaf am y flwyddyn. Croeso cynnes i bawb.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]