THE latest community news from Synod Inn

Merched y Wawr

FE ddathlodd Cangen y Bryniau G?yl Ddewi mewn noson arbennig yng Nghaffi Emlyn, Tanygroes ar nos Iau, 14 Mawrth.

Trefnwyd popeth yn berffaith gan ddwy o aelode hyna’r gangen, sef Gwyneth a Tegwen.

Roedd 17 o’r aelodau’n bresennol a mwynhawyd basned o gawl a dewis o bwdin bendigedig.

Ar ôl trafod peth gohebiaeth, cafwyd sawl gêm o bingo yn Gymraeg, gyda Rhian o Gaffi Emlyn yn galw’r rhifau.

Enillwyd y gwobrau a oedd yn rhoddedig gan Gwyneth a Tegwen, gan Mary, Ann, Sian, Sally, Gwyneth a Gwenno.

I ddiweddu’r noson tynnwyd y raffl, rhoddedig gan y trefnwyr, a’r enillwyr oedd Mair Rees a Gwyneth.

Byddwn yn cwrdd nesa ar nos Iau, 11 Ebrill am 7.30yh pan fydd Eures James yn dod atom i neuadd Caerwedros i siarad am ddoliau ?d.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]