BYDD y triawd roc Lafant yn rhyddhau eu sengl newydd O! Mor Las ar y label cymunedol Fflach Cymunedol ddydd Gwener gan awgrymu sain aeddfedach ar gyfer eu halbwm sydd ar ddod.

Mae'r gân hon yn uniongyrchol. O'i llinell agoriadol "teimlo'n las", wedi'i hymestyn fel sgrech llawn hunan-gasineb, mae ei chynnwys geiriol yn awgrymu dynion ifanc yn cwestiynu’n fewnol eu dewisiadau, gan fystyried ble maen nhw'n perthyn wrth iddyn nhw symud i ffwrdd o'u harddegau.

Yn gerddorol, mae cyfeiriadau at ffefrynnau Britpop The La's a The Bluetones yn ogystal â arwyr y band, Big Leaves, ond wedi'i berfformio gydag angerdd. Erbyn ygytgan olaf a'r pylu allan dros twang tebyg i’r Smiths, bydd y gwrandäwr yn gwybod eu bod wedi cael eu taro gan rywbeth sylweddol.

Ysgrifennodd prif leisydd carismatig y band Mefin Hughes y gân fel llythyr wrth ef fel llanc at ei hun wrth ei weld nawr: “Mae’n gân am weld eich hunan fel oedolyn; yr holl bethau twp chi ‘di’u ‘wneud, yr holl ddewisiadau gwael, y pethau drwg chi’n eu ‘wneud i’ch corff a’ch meddwl, a gofyn ai dyma pwy we ti’n meddwl y byse ti?

Bydd fideo cerddorol yn cael ei ryddhau i gyd-fynd â’r fideo.

Wedi ei ariannu trwy Cronfa Arloesi Fideos Cerddorol, Prifysgol Aberystwyth, mae’r fideo wedi ei ysbrydoli gan ffilmiau arbrofol cyfnod expressionist yr 1920au ac wedi ei gyfarwyddo gan Nico Dafydd mewn cydweithirediad â’r animeiddiwr Lleucu Elisa, sydd yn ddiweddar wedi creu fideo i’r band Dewin a ffilm ddogfen yn olrhain hanes ail-ddechrau gwaith Fflach.

Segurdod yw albwm cyntaf y band ifanc o Sir Benfro ar ôl rhyddhau eu EP Y Fodrwy a’u sengl ddwbl Eira Gwyn/Borthroc yn 2025.

Bydd Segurdod yn cael ei ryddhau ar 20/03/26 ar Fflach Cymunedol.