THE latest community news from Synod Inn

Merched y Wawr

CAFWYD noson arbennig ar nos Iau, 11 Ebrill wrth i ni fel Cangen y Bryniau groesawu Eures James i’n plith i siarad am ddoliau ?d.

Anwen a Sandra oedd yn gyfrifol am y noson a chafwyd agoriad llygad wrth weld Eures yn mynd ati i blethu’r ?d mor gelfydd. Daeth ein tro ni wedyn fel aelodau i fentro ar y grefft – rhai yn cael mwy o lwyddiant na’i gilydd!

Enillwyr y raffl oedd Gwenno, Mair ac Elin ac fe orffennwyd y noson gyda llond bwrdd o ddanteithion blasus gyda phaned o de.

Byddwn yn cwrdd nesa ar nos Iau, 9 Mai pryd y byddwn yn mynd am drip. Gobeithio bod pawb wedi archebu ei bwyd ac edrychwn ymlaen i gwrdd yn Synod Inn am 4.40yp. Sally a Mair Pensarne sy’n trefnu.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]