THE latest community news from Talgarreg
Capel y Fadfa
CYNHALIWYD Cwrdd Pawb Ynghyd ddydd Sul diwethaf dan arweinyddiaeth y Parch Wyn Thomas. Cafwyd neges amserol a phwrpasol, hefyd diolchwyd i bawb fu’n tacluso o gwmpas y capel a’r fynwent yn ddiweddar. Wrth yr organ oedd Enfys Llwyd.
Hyfforddiant GDPR
DDYDD Sadwrn cynhelir sesiwn o hyfforddiant yn Festri Capel y Fadfa i swyddogion capeli ardal y Smotyn Du ynglyn â rheolau newydd ar ddiogelu data ac ar ofynion diogelu.
Bydd y sesiwn yn dechrau am 10yb a gobeithir gorffen tua 12.30yp.
Diwrnod agored
CYNHELIR Diwrnod Agored ddydd Sadwrn nesaf o 10yb – 6hy yn Amgueddfa Hen Bethau Ger y Nant i godi arian tuag at Ymchwil Cancr.
Ni fydd tâl mynediad, ond bydd raffl a derbynnir cyfraniadau.
Taith tractorau
DDYDD Sul diwethaf cynhaliwyd taith tractorau i godi arian tuag at Cylch Meithrin a Ti a Fi y pentref a Chymdeithas Alzheimer’s.
Braf oedd gweld dros 30 o dractorau yn teithio o gwmpas yr ardal, cyn dod yn ôl i ginio yn Nhafarn Glanyrafon. Diolchir i bawb am bob cefnogaeth a llwyddwyd i godi dros £950.
Rasys Trotian
CYNHALIWYD y rasys ar gaeau Rhydlydan ar Wyl y Banc. Cafwyd diwrnod llawn hwyl i’r teulu cyfan.
Capel Penrhiw
DDYDD Sul am 2yp bydd aelodau capeli’r Smotyn Du dan arweiniad Dylan Iorwerth yn gwneud cyflwyniad yn y capel yn Amgueddfa Sain Fagan i gofio 150 mlynedd ers etholiad 1868, pan ymladdodd yr Undodiaid yn ddewr yn erbyn gormes. Os yw aelodau Capel y Fadfa yn awyddus i fynd, ewch mewn cysylltiad â’r gweinidog, y Parch Wyn Thomas mor fuan â phosib i sicrhau eich lifft ar y dydd.
Gwyl y Pentref
ELENI cynhelir yr wyl ar nos Wener, 29 Mehefin, gyda helfa drysor ar droed a’r carnifal ar y dydd Sadwrn.
Llywyddion yr wyl fydd Mr a Mrs Jones, Fferm Rhydowen Fach a thema’r fflôt fydd Yr Ysgol.
Yn dilyn y carnifal a’r mabolgampau fydd Ras Sïon Cwilt a bydd rownderi a’r barbeciw yn dilyn y ras fawr.
Dewch yn llu am hwyl a sbri.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]



-with-her-son-Rufus-her-partner-and-younger-son-Noah.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)


Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.