THE latest community news from Talgarreg
Capel y Fadfa
CYNHALIWYD Gwasanaeth Undebol yn Hen Gapel Llwynrhydowen am 2yp ddydd Sul diwethaf yng nghwmni y gweinidog, y Parch Wyn Thomas.
Mae’r oedfa hon wedi dod yn un flynyddol, gyda mefus a hufen yn cael ei weini a chroeso i bawb i’r capel hanesyddol hwn. Ni chafodd neb eu siomi’r Sul diwethaf gyda’r oedfa arbennig, yng nghwmni chwech o blant bach oedd wedi dod i fod yn rhan o’r gwasanaeth.
Cynhelir y gwasanaeth nesaf ym Mwlch y Fadfa ddydd Sul am 3yp gyda’r Parch Wyn Thomas yn gwasanaethu, croeso i bawb.
Gwyl y Pentref
CYNHELIR Gwyl y Pentref ar nos Wener, 29 Mehefin gyda Helfa Drysor ar droed a’r Carnifal ar y dydd Sadwrn. Llywyddion eleni fydd Mr a Mrs Jones, Fferm Rhydowen Fach. Thema’r fflôt fydd ‘Yr Ysgol’. Yn dilyn y Carnifal a’r Mabolgampau bydd Ras Sïon Cwilt a Rownderi a’r BBQ yn dilyn y Ras Fawr. Dewch yn llu am benwythnos o hwyl a sbri.
Cylch Meithrin a Ti a Fi
MAE’R Cylch yn rhan o’r prosiect ‘Bag 2 School’ lle mae cyfle i bobl yr ardal ddod â bagiau o hen ddillad, esgidiau, teganau meddal, bagiau a hetiau, llenni, dillad gwely, tywelion ayyb i’r Neuadd Goffa, ddydd Mercher: 12.30-3yp; dydd Iau: 1.30-3yp; a dydd Gwener: 9.30-11.30yb.
Rhaid i bob dim fod o ansawdd da ac wedi’u golchi’n lân. Os nad yw’r amserau yn siwtio, cysylltwch â Teleri Morris Jones i wneud trefniadau i gasglu eich bagiau.
Bydd y ddau fudiad yma yn elwa’n sylweddol, felly ewch i chwilio, mae pob ceiniog yn cyfri. Diolch ymlaen llaw am bob cefnogaeth.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.