THE latest community news from Talgarreg

Canu Gwlad

BYDD Tudur Wyn yn ôl yn canu yn Nhafarn Glanyrafon ar wahoddiad Hefin a Megan ar nos Sadwrn, 11 Awst.

Elw i gyd tuag at Ymchwil Cancr.

Cymdeithas yr Henoed

CYNHELIR trip a chinio Cymdeithas Henoed yr ardal ddydd Iau, 9 Awst, gan adael Tafarn Glanyrafon am 9.30yb.

Eleni ymweliad â gogledd Cymru a chartref y bardd Hedd Wyn, Yr Ysgwrn, Trawsfynydd fydd yr arlwy, gan alw ym Machynlleth ar y ffordd.

Darparir taith o gwmpas Yr Ysgwrn a phaned o de am £7 y pen.

Dychwelwn i Dalgarreg erbyn 6yh ar gyfer swper yn Nhafarn Glanyrafon.

Yn ôl yr arfer gofynnir i bawb i gyfrannu at gostau’r bws.

Bydd swper am ddim i’r rhai sy’n 70 oed a throsto ac yn byw o fewn cyfeiriad post Talgarreg.

Ni chynhelir y trip os nad fydd nifer digonol yn dod, ond mi fydd y swper yn cael ei gynnal beth bynnag.

Os nad ydych am ddod ar y trip, mae croeso i chi fynychu’r swper yn unig.

Os hoffech ymuno ar gyfer y trip a/neu’r cinio ffoniwch Gwyneth ar 590482 mor gynted a phosib.

Llwyddiant

MAE Gwenllïan Llwyd, T?’r Ysgol wedi cael tipyn o lwyddiant yn ddiweddar ym myd y celfyddydau ac yn sgil hyn mae wedi derbyn gwahoddiad i ddangos ffilm o’i gwaith yng ng?yl flynyddol Lorient, yn Llydaw yn ystod yr wythnos nesaf.

Film yw hon sy’n dangos sut mae cymuned yn medru cydweithio wrth drefnu gweithgaredd, fel noson Cawl a Chân er lles y pentref.

Pwrpas y ffilm oedd tynnu sylw’r cyhoedd i gryfder a gallu gweithgarwch y merched yn y pentref ac estyn diolch iddynt am y gwaith caled maent yn eu gwneud yn y pentref o hyd.

Capel y Fadfa

GAN fod tipyn o waith cynnal a chadw yn cael ei wneud ar y capel a’r festri ar hyn o bryd, bydd cyngerdd yn cael ei gynnal yn y Neuadd Goffa ar nos Sadwrn, 24 Tachwedd, yng nghwmni Bois y Gilfach; a byddant yn defnyddio llawer o ddeunydd y diweddar Barch Jacob Davies yn ei rhaglen.

Bydd caws a gwin yn cael eu gweini ar y noson hefyd.

Mwy o wybodaeth i ddod maes o law am hyn.

Bydd yr oedfa nesaf ar ddydd Sul, 19 Awst, am 9.45yb; croeso i bawb.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]