THE latest community news from Talgarreg

Capel y Fadfa

CYNHALIWYD oedfa foreol y Sul diwethaf am 9.45yb yng nghwmni’r gweinidog, y Parch Wyn Thomas a chafwyd ganddo neges rymus.

Gwnaed y casgliad gan Mari, a Carol Rees oedd wrth yr organ.

Dymunodd y gweinidog yn dda i Tania a Steffan ar eu priodas ddydd Sadwrn diwethaf, hefyd i bawb sy’n derbyn canlyniadau arholiadau ar hyn o bryd.

Diolchodd i bawb a fu’n torri’r borfa ac yn tacluso o amgylch y capel ar fynwent yn ystod yr wythnos ddiwethaf.

Gan fod tipyn o waith cynnal a chadw yn cael ei wneud ar y capel ar festri ar hyn o bryd, bydd noson o gaws, gwin a chân yn cael ei gynnal yn y Neuadd Goffa ar nos Sadwrn, 24 Tachwedd, yng nghwmni Bois y Gilfach a byddant yn defnyddio llawer o ddeunydd y diweddar Barch Jacob Davies yn ei rhaglen.

Llywydd y noson fydd Meic Birtwistle sydd â chysylltiadau teuluol â’r capel.

Mwy o wybodaeth i ddod maes o law am y digwyddiad hwn.

Cymdeithas yr Henoed

YN anffodus ni chynhaliwyd trip Cymdeithas Henoed yr wythnos ddiwethaf gan nad oedd digon o enwau i lenwi’r bws, ond roedd croeso cynnes wedi cael ei estyn i bawb i fwynhau pryd o fwyd yn Glanyrafon fin nos.

Hyfryd oedd gweld y stafell yn gysurus lawn o bobl yr ardal wedi dod at ei gilydd i gael swper a chyfle i gymdeithasu.

Diolch i swyddogion y Gymdeithas am drefnu pob dim unwaith eto eleni.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]