THE latest community news from Talgarreg

Capel y Fadfa

BYDD yr oedfa brynhawn Sul, 2 Medi am 1.30yp gyda’n gweinidog, y Parch Wyn Thomas yn gweinyddu’r cymun.

Cynhelir ein hoedfa Ddiolchgarwch ar ddydd Sul, 30 Medi am 1.30yp gyda’r Parch Cen Llwyd yn gwasanaethu.

Gan fod tipyn o waith cynnal a chadw yn cael ei wneud a’r y capel ar festri ar hyn o bryd, bydd Noson o Gaws, Gwin a Chân yn cael ei gynnal yn y Neuadd Goffa ar nos Sadwrn, 24 Tachwedd, yng nghwmni Bois y Gilfach. Byddant yn defnyddio llawer o ddeunydd y diweddar Barch Jacob Davies yn ei rhaglen.

Llywydd y noson fydd Meic Birtwistle, sydd â chysylltiadau teuluol â’r capel. Mwy o wybodaeth maes o law.

Neuadd Goffa

MAE’N amser o’r flwyddyn unwaith eto i ymaelodi â Chlwb 100 y Neuadd Goffa. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Rhian ar 01545 581296.

Canu Gwlad

NOS Sadwrn, 8 Medi bydd y ddeuawd Dafydd a Lisa yn diddanu yn Nhafarn Glanyrafon, ar wahoddiad Hefin a Megan. Bydd holl elw’r noson yn mynd tuag at Ymchwil Cancr.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]