THE latest community news from Talgarreg

Capel y Fadfa

BYDD yr oedfa ddydd Sul nesaf am 3yp yng nghwmni ein gweinidog, y Parch Wyn Thomas.

Cynhelir gwasanaeth Ddiolchgarwch ar ddydd Sul, 30 Medi, am 1.30yp gyda’r Parch Cen Llwyd yn gwasanaethu.

Gan fod tipyn o waith cynnal a chadw yn cael ei wneud ar y capel a’r festri ar hyn o bryd, bydd Noson o Gaws, Gwin a Chân yn cael ei gynnal yn y Neuadd Goffa ar nos Sadwrn, 24 Tachwedd.

Mwy o wybodaeth i ddod maes o law.

Canu Gwlad

NOS Sadwrn roedd y ddeuawd boblogaidd Dafydd a Lisa yn ôl yn diddanu yn Nhafarn Glanyrafon ar wahoddiad Hefin a Megan.

Roedd holl elw’r noson yn mynd tuag at Ymchwil Cancr.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]