THE latest community news from Talgarreg
Capel y Fadfa
CYNHELIR yr oedfa nesaf ar fore Sul, 21 Hydref, yn y festri, gan mai Cwrdd Diolchgarwch Plant yr Ysgol Sul fydd yn cymryd lle.
Croeso cynnes i unrhyw un droi i mewn i’r oedfa arbennig yma yng nghwmni’r plant a’r bobl ifanc.
Cymdeithas Undodaidd
DDYDD Sul diwethaf cynhaliwyd Cwrdd y Gymdeithas Undodaidd braidd yn wahanol i’r arfer, i nodi’r etholiad hanesyddol a’r troad allan o Hen Gapel Llwynrhydowen.
Y Parch Wyn Thomas oedd yn llywyddu a chymorth aelodau o wahanol gapeli fe nodwyd yr hanes yn gryno iawn.
Diolch i Dylan Iorwerth am baratoi’r sgript arbennig, yn nodi pwysigrwydd beth ddigwyddodd yr adeg hynny i ni gael y bleidlais gudd heddiw.
Fel rhan o’i hymweliad â Chymru ac ardal y Smotyn Du, cafwyd gweddi amserol gan y Parch Carie Johnsen o Augusta, Maine sydd wedi cyfnewyd pulpit â’r Parch Alun Wyn Dafis am fis.
Hyfryd oedd gweld yr hen gapel bach mor llawn ac yn edrych mor dda er gwaethaf pob dim oedd wedi digwydd 150 o flynyddoedd yn ôl.
I ddilyn cynhaliwyd Pwyllgor Gwaith y Gymdeithas, dan lywyddiaeth Morwen Thomas ac yna aeth pawb i’r Festri i fwynhau te a chacennau a oedd wedi cael ei baratoi gan wragedd caredig y capel.
Capel Pisgah
CYNHELIR Cwrdd Diolchgarwch y capel nos Wener am 7yh.
Y gweinidog gwadd fydd y Parch Gwyn Elfyn ac edrychir ymlaen at glywed ei neges.
Canu Gwlad
NOS Sadwrn bydd Tudur Wyn yn diddanu yng Ngwesty Glanyrafon ar wahoddiad Hefin a Megan.
Elw tuag at Ymchwil Cancr.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.