THE latest community news from Talgarreg
Capel y Fadfa
CYNHELIR yr oedfa ddydd Sul nesaf am 1.30yp gyda’r gweinidog, y Parch Wyn Thomas yn gwasanaethu.
Erbyn hyn mae’r tocynnau ar werth ar gyfer y noson Caws a Gwin yng nghwmni Bois y Gilfach, ar nos Sadwrn, 24 Tachwedd am 7yh. Llywydd y noson fydd Meic Birtwistle o Drefenter.
Bydd yn gyngerdd arbennig iawn, gyda’r bechgyn yn perfformio eu caneuon arferol ac yna yn cyflwyno fersiwn fyrrach o Noson Jacob a berfformiwyd yn Theatr Felinfach y llynedd.
Tocynnau yn £7.50 ac ar gael gan yr aelodau neu drwy ffonio 01970 612768.
Oedfa Undebol
DDYDD Sul diwethaf cynhaliwyd oedfa undebol Capeli Bröydd Marles a Gwenog yng Nghapel Pantydefaid am 10.30yb gyda’r gweinidog, y Parch Wyn Thomas yn gwasanaethu.
Roedd yr oedfa yn un arbennig iawn i gofio am y rhai a gollodd eu bywydau mewn rhyfeloedd drwy’r byd ar hyd y blynyddoedd. Yn ôl yr arfer roedd croeso cynnes i’r aelodau ac i unrhyw un arall oedd am droi i mewn i’r oedfa i glywed neges neilltuol y gweinidog ar Sul y Cofio.
Ffair Nadolig
CYNHALIWYD ffair Nadolig yn y Neuadd Goffa, nos Wener o 4.30yp ymlaen, gyda’r holl elw’n mynd tuag at yr Ysgol Feithrin a’r Ysgol Gynradd.
Roedd tâl o £10 am fwrdd a gofynnwyd i bawb a oedd yn arddangos a fyddent mor garedig a rhoi rhywbeth bach tuag at y raffl. Roedd te, coffi a digon o gacennau ar werth a braf oedd gweld cymaint wedi dod i gefnogi a gwnaed elw sylweddol.
Tipit
NOS Wener cynhaliwyd cystadleuaeth Tipit yn Nhafarn Glanyrafon am 7.30yh â chyfle i bawb ddod â thîm i ymuno yn yr hwyl a sbri’r noson. Roedd holl elw’r digwyddiad yn mynd tuag at Gymdeithas Henoed y pentref.
Capel Pisgah
COFIWCH am Gwrdd Diolchgarwch y capel nos Wener am 7yh, gyda’r Parch Gwyn Elfyn yn gwasanaethu. Croeso cynnes i bawb.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.