THE latest community news from Talgarreg
Capel y Fadfa
NOS Sul ddiwethaf cynhaliwyd gwasanaeth a pharti Nadolig yr Ysgol Sul yn y Festri.
Er gwaethaf y tywydd gwlyb, cafwyd gwasanaeth arbennig, te parti ac ymweliad gan Siôn Corn.
Cynhelir yr oedfa nesaf ar ddydd Sul, 13 Ionawr am 3yp gyda’n gweinidog yn rhannu’r cymun am y tro cyntaf yn y flwyddyn newydd.
Croeso i aelodau a ffrindiau’r achos i ymuno yn yr oedfa.
Gwasanaeth Carolau
CYNHALIWYD noson carolau ar nos Fawrth cyn y Nadolig, gyda’r casgliad tuag at Beiciau Gwaed Cymru.
Cafwyd sgwrs gan Graham Jones am waith yr elusen yn ystod y noson a chodwyd £240.
Diolchwyd i Arthur Charles am ddod â beic i’w arddangos, hefyd i Cathy Campion ac Angela Jones o’r elusen.
Gwasanaethau
AR y Sul olaf o’r flwyddyn cynhelir Oedfa Undebol yng Nghapel y Bryn am 10.30yb yng nghwmni y gweinidog, y Parch Wyn Thomas.
Croeso i bawb.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.