THE latest community news from Talgarreg

Capel y Fadfa

Cynhelir yr oedfa nesaf ar ddydd Sul am 3yp, pryd y bydd y gweinidog Y Parch Wyn Thomas yn cael y cyfle i rannu’r cymun am y tro cyntaf yn y flwyddyn newydd.

Yn ôl yr arfer fe estynnir croeso cynnes i aelodau ac i ffrindiau’r achos i ymuno yn yr oedfa arbennig hwn.

Capel Pisgah

Cynhelir gwasanaeth dechrau flwyddyn nos Lun, 14 Ionawr am 7yh gyda’r pwyllgor blynyddol i ddilyn.

Yn ôl yr arfer croesawir pawb i’r oedfa neilltuol hwn ar gychwyn blwyddyn arall.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]