THE latest community news from Talgarreg
Capel y Fadfa
CYNHALIWYD oedfa gyntaf y flwyddyn yn y capel y Sul diwethaf, gyda’n gweinidog, y Parch Wyn Thomas yn rhannu’r cymun.
Cafwyd gwasanaeth a neges dymhorol a phriodol iawn.
Wrth yr organ oedd Carol Rees.
Dymunodd y gweinidog yn dda i Helen Penffynnon ar ei dyweddïad â Guto.
Gwasanaeth am 10.30yb fydd ar ddydd Sul, 27 Ionawr.
Ar ddydd Sul, 3 Mawrth, fe fydd y Llywydd Cenedlaethol yr Undodiaid, sef Joan Cook o Gaeredin yn dod ar ymweliad â Chymru ac i Gapel y Fadfa i gynnal oedfa.
Yn ôl yr arfer fe fydd croeso i unrhyw un i’r gwasanaeth arbennig hwn ac i ddilyn bydd te Cymreig yn cael ei weini yn y festri.
Mwy o wybodaeth am yr oedfa hon i ddod maes o law.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.