THE latest community news from Talgarreg

Caws a Gwin

CYNHELIR noson Caws a Gwin a Chlonc yn Nhafarn y Porth nos Wener am 7.30yh. Bydd Dylan Iorwerth yn cadeirio panel o siaradwyr, sef Ben Lake AC, Canon Eileen Davies a Catrin Haf Jones.

Noddwyr y noson fydd Gomer. Mynediad drwy docyn yn unig (£7) ar gael o’r Porth, Siop Ffab, Siop Smotyn Du, Pregethwyr y Smotyn Du neu drwy e-bostio [email protected]

Trefnwyr y digwyddiad yw Pwyllgor Yr Ymofynnydd a bydd elw’r noson yn cael ei rannu rhwng elusennau MIND Cymru a Chanolfan Llys Pedr, Llanbedr Pont Steffan.

Cwis

NOS Iau, 18 Ebrill cynhelir Cwis Pasg yn Nhafarn Glanyrafon am 7.30yh, £5 y tîm, gyda hyd at 4 aelod ymhob tîm.

Bydd holl elw’r noson yn mynd tuag at Gymdeithas Henoed y Pentref a Chancr y Brostad.

Bydd y cwestiynau yn cael ei holi yn y Gymraeg a’r Saesneg, dewch i gefnogi.

Capel y Fadfa

CYNHALIWYD yr oedfa ddydd Sul am 3yp gyda’n gweinidog y Parch Wyn Thomas yn gwasanaethu.

Ddydd Sul nesaf cynhelir Cwrdd y Gwanwyn, Cymdeithas Undodaidd ardal y Smotyn Du yng Nghapel Rhydygwin am 1.30yp.

Bydd yr oedfa yn ofal y Parch Cen Llwyd. Yn ystod yr oedfa cyflwynir siec o £700 tuag at Alzheimer’s yn dilyn y bore coffi a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Festri Capel y Fadfa.

Capel Pisgah

CYNHELIR taith gerdded flynyddol y capel ddydd Sadwrn, gadael y maes parcio am 1yp.

Cesglir tuag at apêl Madagascar, Undeb yr Annibynwyr. Croeso i bawb i gyd-gerdded a chymdeithasu.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]