THE latest community news from Talgarreg
Capel y Fadfa
DDYDD Sul diwethaf cynhaliwyd Cwrdd y Gwanwyn, Cymdeithas Undodaidd ardal y Smotyn Du yng Nghapel Rhydygwin. Roedd y gwasanaeth yng nghofal y Parch Cen Llwyd.
Yn ystod yr oedfa cyflwynwyd siec o £700 tuag at waith elusen Alzheimer’s yn dilyn y bore coffi a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Festri Capel y Fadfa.
Dilynwyd y cwrdd gyda chyfarfod busnes y gymdeithas, yna aeth pawb i’r Festri i ymuno mewn orig o gymdeithasu dros baned.
Ddydd Sul nesaf cynhelir yr oedfa am 10.30yb gyda’n gweinidog yn rhannu’r cymun. Croeso cynnes i aelodau a ffrindiau’r achos.
Caws a Gwin
NOS Wener ddiwethaf cafwyd caws, gwin a chlonc yn Nhafarn y Porth a braf oedd gweld cymaint wedi troi allan i gefnogi.
Dylan Iorwerth oedd yn cadw llygaid dros y panel o siaradwyr, sef Ben Lake AC, Canon Eileen Davies a Catrin Haf Jones.
Cafwyd pob math o gwestiynau ac atebion, gyda’r gynulleidfa yn mwynhau’r noson ddiddorol.
Noddwyr y noson oedd Gomer a threfnwyr y digwyddiad oedd Pwyllgor yr Ymofynnydd.
Roedd y penderfyniad wedi ei wneud os fyddai elw, byddai’n cael ei rannu rhwng elusennau MIND Cymru a Chanolfan Llys Pedr, Llanbedr Pont Steffan.
Braf yw cael cyhoeddi bod £400 wedi cael ei godi, felly bydd y ddwy elusen yma’n elwa o £200 yr un.
Cwis
AR nos Iau 18 Ebrill, cynhelir Cwis Pasg yn Nhafarn Glanyrafon am 7.30yh. Codir £5 y tîm, gyda hyd at 4 aelod ym mhob tîm. Bydd holl elw’r noson yn mynd tuag at Gymdeithas Henoed y Pentref a Chancr y Brostad.
Digon o amser o nawr tan y dyddiad i bawb gael timoedd yn barod am noson o hwyl a sbri.
Bydd y cwestiynau yn cael ei holi yn y Gymraeg a’r Saesneg, felly dewch i gefnogi ac i godi arian ar gyfer y ddwy elusen.
Ysgol Gynradd
DAETH llwyddiant i’r cefndryd Caio a Mali yn eisteddfod yr ysgol yn ddiweddar. Caio yn ennill tlws Saesneg a Mali yn ennill y prif lenor.
Hefyd bu rhai o blant yr ardal yn cystadlu yn Eisteddfod Ranbarthol yr Urdd ym Mhontrhydfendigaid yn ddiweddar a llongyfarchiadau i’r rhai sy’n mynd ymlaen i’r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd ddiwedd Mai.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.