THE latest community news from Talgarreg

Capel y Fadfa

DDYDD Sul nesaf, a hithau yn Sul y Pasg, cynhelir oedfa gymun am 1.30yp yng ngofal ein gweinidog, y Parch Wyn Thomas.

Yn ôl yr arfer estynnir croeso cynnes i aelodau a ffrindiau’r achos i’r oedfa arbennig yma.

Cymanfa Ganu

ELENI cynhelir Cymanfa Undodiaid ardal y Smotyn Du yng Nghapel Brondeifi ar ddydd Sul, 28 Ebrill.

Bydd dwy oedfa ganu yn ôl yr arfer, un am 2yp gyda phlant a phobl ifanc yr ysgolion Sul yn dangos eu doniau ar lafar a chân a’r llall am 5.30yh ar gyfer yr oedolion. Trefnydd y dydd fydd y Parch Alun Wyn Dafis a’r arweinydd gwadd fydd Enfys Hatcher Davies, Llanddewi Brefi a’r organyddes fydd Eirian Jones.

Dwy ferch yw’r llywyddion, sef Donna Williams o Gapel Rhydygwin yn y prynhawn a Heddwen Hewis o Gapel Brondeifi, ond sy’n byw yn awr yn Kidlington. Bydd lluniaeth rhwng y ddwy oedfa.

Cynhelir rihyrsal ddydd Sul nesaf yng Nghapel Brondeifi ar gyfer y plant a’r oedolion a byddai’n dda gweld cynulleidfa luosog yn dod at ei gilydd ar gyfer dathlu 127 cymanfa.

Cwis

NOS Iau cynhelir cwis Pasg yn Nhafarn Glanyrafon am 7.30yh. Codir tâl o £5 y tîm, gyda hyd at bedwar aelod ymhob tîm; gofynnir y cwestiynau yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Bydd holl elw’r noson yn mynd tuag at Gymdeithas Henoed y Pentref a Chancr y Brostad, felly dewch i gefnogi ac i godi arian ar gyfer dwy elusen haeddiannol iawn.

Ysgol Gynradd

AM y tro cyntaf eleni cafodd disgyblion rhai o ysgolion sir Ceredigion gyfle i gystadlu yn Cwis Dim Clem, sef cwis wedi’i drefnu gan Fentrau Iaith De Orllewin Cymru, lle trefnwyd Cered: Menter Iaith Ceredigion y rowndiau rhanbarthol.

Bu disgyblion ysgolion canol y sir yn cystadlu’n frwd er mwyn mynd ymlaen i’r rownd derfynol, lle llwyddodd Ysgol Talgarreg i gipio’r ail wobr yn erbyn ysgolion o siroedd Castell Nedd - Port Talbot, Brycheiniog, Caerfyrddin a Phenfro.

Cwis ar gyfer plant Bl 6 yw Cwis Dim Clem a’r nod yw datblygu cyfleoedd cyfrwng Cymraeg newydd i blant ysgol ac i ddatblygu cysylltiadau rhwng ysgolion a’r Mentrau Iaith.

Roedd y tîmoedd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd ar bob math o bynciau o ddaearyddiaeth, gwyddoniaeth, mathemateg i chwaraeon, cerddoriaeth a bwyd. Y nod yw sgorio’r cyfanswm uchaf o bwyntiau ymhob rownd ac yna bydd yr ysgol sydd yn sgorio fwyaf yn cynrychioli’r sir mewn rownd derfynol yn erbyn pencampwyr siroedd eraill y de orllewin.

Mae’r cwis wedi ei gynnal ers sawl blwyddyn bellach ac yn 2019 fe ehangodd y cynllun i gynnwys siroedd newydd gan gynnwys Ceredigion.

Yn y flwyddyn gyntaf hon fe wnaeth Cered: Menter Iaith Ceredigion beilota Cwis Dim Clem yn ardaloedd Llanbedr Pont Steffan ac Aberaeron, gan gynnal rowndiau lleol yn y ddwy ardal ac yna rownd gynderfynol ar gyfer y timoedd gorau.

Bu saith ysgol yn cystadlu yn y rowndiau yma ond yn y pendraw Ysgol Talgarreg aeth a hi gan gyrraedd y rownd derfynol yn Yr Atom yng Nghaerfyrddin ar ddydd Mercher, 27 Mawrth.

Ysgol Cilgerran o Sir Benfro gipiodd y wobr gyntaf, gydag Ysgol Talgarreg yn ail ac Ysgol Gymraeg Rhydaman o Sir Gâr yn drydydd.

Dathlu

YN ddiweddar cynhaliwyd g?yl i gofio Eirwyn Pontshan, y digrifwr a’r diddanwr Eirwyn Jones o Dalgarreg.

Llywydd y digwyddiadau oedd un o ffrindiau mynwesol Eirwyn, sef Lyn Ebenezer.

Roedd prif ddigwyddiadau’r ?yl ar nos Wener yn y Neuadd Goffa, sef cyfraniad plant ysgol gynradd y pentref.

Cafwyd sioe gomedi ‘Hyfryd Iawn Bach’ dan ofal Mair Tomos Evans, lle cafodd y gynulleidfa luosog glywed hiwmor a digrifwch gan blant yr ysgol.

Yn dilyn roedd Caio Evans yn actio Eirwyn yn blentyn ac Ioan Evans ei frawd yn ei actio’n fel prentis ifanc.

I gloi’r noson Ryland Teifi oedd yn rhoi portread o Eirwyn.

Ar ddydd Sadwrn trefnwyd taith mewn bws o gwmpas bro Eirwyn dan arweiniad Cen Llwyd, gan ymweld â nifer o leoedd oedd yn gysylltiedig â hanes Eirwyn a hanes yr ardal.

I gloi’r ?yl ar y nos Sadwrn cafwyd Noson Gomedi gyda chyfuniad o ddoniau lleol a doniau cenedlaethol, megis Ifan Tregaron, Ryland Teifi, Dewi Pws, Mair Tomos Ifans ac eraill.

Roedd yr ?yl yn ffrwyth cydweithrediad rhwng bröydd Sïon Cwilt ac mae’r trefnwyr yn cydnabod yn ddiolchgar cymorth ariannol Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gynnal yr ?yl.

Eisteddfod yr Urdd

DA iawn i bawb o’r ardal oedd yn cystadlu yn Eisteddfod Ranbarthol yr Urdd ddydd Sadwrn diwethaf ym Mhontrhydfendigaid a phob hwyl i’r rhai sy’n mynd ymlaen i’r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd ddiwedd Mai.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]