THE latest community news from Talgarreg
Capel y Fadfa
CYNHELIR yr oedfa nesaf ar ddydd Sul, 2 Mehefin am 3yp gyda’n gweinidog, y Parch Wyn Thomas yn gweinyddu’r cymun. Croeso i bawb.
Cymanfa Bwnc
BRYNHAWN Sul diwethaf aeth rhai o aelodau Capel y Fadfa, Capel y Graig a Phantydefaid i ymuno ag aelodau Capel Llwynrhydowen ar gyfer y Gymanfa Bwnc flynyddol.
Thema’r gymanfa eleni oedd ‘Wyneb i Waered’, felly diddorol oedd clywed beth oedd gan ein gweinidog, y Parch Wyn Thomas dan sylw.
Cafwyd orig yn trafod a rhoi’r byd yn ei le. Cafwyd croeso cynnes i’r digwyddiad blynyddol hwn yn ein calendr o ddigwyddiadau.
G?yl y Pentref
BYDD g?yl y pentref eleni yn dechrau ar nos Wener, 12 Gorffennaf gyda’r helfa drysor o amgylch y pentref.
I ddilyn ar y dydd Sadwrn cynhelir y carnifal a’r mabolgampau a ras Sion Cwilt a bydd rownderi a barbeciw yn dilyn y ras fawr.
Dewch yn llu i’r digwyddiadau hyn, sydd fel arfer yn llawn sbri. Am ragor o fanylion cysylltwch â Catrin OwensEvans, Allana Silvestri-Jones neu Kathleen Griffiths.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]