THE latest community news from Talgarreg.
Oedfa Undebol
DDYDD Sul diwethaf cynhaliwyd oedfa arbennig yng Nghapel Pantydefaid am 3.30yp.
Roedd ymwelwyr, sef Undodiaid o Dde Cymru, wedi bod ar ymweliad â Hen Gapel Llwynrhydowen i gael hanes yr adeilad hanesyddol hwn, cyn iddynt ymuno mewn oedfa undebol gyda’r Parch Wyn Thomos yn gwasanaethu ac yn cael ei gynorthwyo gan y Parch Eric Jones. Yr organyddes oedd Hefina Davies.
Yn y capel arbennig hwn roedd Richard Lloyd Jones a’i deulu yn mynychu cyn iddynt ymfudo i’r America. Daeth un o’i feibion, sef y Parch Jenkin Lloyd Jones, yn weinidog yn Chicago, ef hefyd oedd ewythr y pensaer enwog Frank Lloyd Wright.
Yn dilyn yr oedfa aeth pawb i’r festri, lle roedd te wedi cael ei baratoi ar gyfer pawb gan wragedd Pantydefaid.
Cafwyd orig hwylus o gymdeithasu dros baned. Gwnaed y diolchiadau gan Tony Foster, sef Llywydd Cymdeithas Undodaidd y De Ddwyrain Taith Gerdded DDYDD Sul nesaf bydd Undodiaid ardal y Smotyn Du yn cynnal
eu taith gerdded flynyddol.
Eleni bydd y daith yn cychwyn o Gapel Pantydefaid am 1.30yp, ymlaen at hen gartref y diweddar Parch Jacob Davies ym Mhenlon.
Cyfle i ganu emyn neu ddwy yno ac yna ymlaen at bentref Tregroes, lle bydd lluniaeth yn cael ei weini i bawb.
Bydd holl elw’r daith eleni yn mynd tuag at Ymchwil Parkinson’s a Chalonnau Cymru. Os un am ffurflen nawdd, cysylltwch gyda’r Parch Wyn Thomas neu Cen Llwyd mor fuan â phosib.
I’r rhai ohonoch sydd ddim am gerdded, cofiwch noddi rhywun sydd yn gwneud, er mwyn codi arian tuag at y ddwy elusen arbennig hyn.
Gwyl Talgarreg
CYNHALIWYD yr wyl eleni dros y penwythnos a aeth heibio. Cychwyn nos Wener, gyda Helfa Drysor ar droed. Trefnwyr yr helfa oedd enillwyr llynedd.
Ymgynnull yn y neuadd rhwng 6 a 7yh â phawb yn barod i fynd o amgylch y pentref yn chwilio’r trysorau.
Gorffen lan yn Nhafarn Glanyrafon i weld pwy oedd wedi ennill a chyfle i weld y gêm bêl-droed Cymru ar y sgrin fawr.
Dydd Sadwrn yng nghae’r ysgol am 2.30yp cynhaliwyd y carnifal a’r mabolgampau, ras Sïon Cwilt, barbeciw, rownderi a thynnu’r celyn.
Llywyddion a beirniaid eleni oedd Hawys ac Owain Llyr o Ruthun (Pantswllt gynt). Thema’r fflôt oedd Ewrop a braf oedd gweld timau o ardaloedd Pisgah, Talgarreg, Bwlchyfadfa a Phantgoch yn cymryd rhan.
Hyfryd oedd gweld cymaint o blant ac oedolion wedi paratoi eu gwisgoedd fansi ar gyfer y digwyddiad blynyddol hwn.
Roedd yno gwpanau, medalau a thariannau her yw ennill mewn gwahanol gystadlaethau a gan fod y tywydd mor braf cyfle i bawb fwynhau, cael hwyl a chefnogi.
Ysgol Gynradd
ENILLYDD loteri Mehefin oedd Mary Thomas, Llygad yr Haul, a rhif y bêl lwcus oedd 16.
Cynhelir Ffair Entrepreneraidd a Rhostio Mochyn ar nos Wener, 15 Gorffennaf, yn y Neuadd Goffa am 7yh.
Oedolion £5 a phlant yr Ysgol Gynradd am ddim. Mynediad drwy docyn yn unig, ar gael o’r ysgol.
Yn ystod y noson bydd y ‘Raffl Binc’ yn cael ei thynnu er budd Cancr y Fron.
Dewi Emrys
YN DDIWEDDAR gwelwyd rhaglen ar S4C yn olrhain hanes y bardd uchod, gyda Mererid Hopwood a Tudur Dylan yn cyflwyno.
Enillodd Dewi Emrys y Gadair yn y Genedlaethol bedair gwaith – yn Lerpwl yn 1929, Llanelli yn 1930, Bangor yn 1943 a Phen-y-bont ar Ogwr yn 1948.
Daeth Dewi Emrys i fyw, gyda’i ferch Dwynwen i ‘Y Bwthyn’ yn y pentref yn 1941 ac yn y fan honno y treuliodd weddill ei oes.
Bu farw yn Aberystwyth ym Medi 1952 a chafodd ei gladdu ym mynwent Capel Pisgah.
Gyrfa Chwist
A HITHAU yn nos Iau cyntaf y mis, cynhelir gyrfa chwist yn Nhafarn Glanyrafon.
Cofiwch chi sy’n hoff o chwarae’r cardiau dyma’r lle i chi fod ac wrth chwarae byddwch yn codi arian tuag at achosion da.
Capel y Fadfa
DOES dim oedfa yn y capel tan 17 Gorffennaf, pryd y bydd Oedfa Gymun am 1.30yp gyda Parch Wyn Thomas.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.