THE latest community news from around Talgarreg.
Capel y Fadfa
CYNHALIWYD y cwrdd dydd Sul diwethaf am 1.30yp, pryd yr oedd yn Oedfa Gymun ac yn ôl yr arfer roedd ein gweinidog, Parch Wyn Thomas, yn falch iawn i groesawi aelodau a ffrindiau i’r oedfa arbennig hwn.
Ysgol Gynradd
NOS Wener ddiwethaf cynhaliwyd ffair entrepreneuriaid a rhostio mochyn yn y Neuadd Goffa.
Gafwyd noson arbennig a chodwyd £400 er budd Cancr y Fron gyda’r ‘Raffl Binc’.
Rhaid ffarwelio a Margaret Griffiths ar ôl dros 40 mlynedd o wasanaeth, felly diolch iddi am ei gwasanaeth hir i’r ysgol.
Pob lwc i Gethin, Meryl, Owain Sisto, Owain Griffiths, Trystan, Johnathan, Morgan a Rebecca a fydd yn dechrau yn Bl 7 yn Ysgol Bro Teifi ym mis Medi
Canu Gwlad
NOS Sadwrn diwethaf roedd y canwr a’r jociwr Clive Edwards nôl yng Ngwesty Glanyrafon ar wahoddiad Hefin a Megan, felly cafwyd y cyfle i glywed ambell i gân boblogaidd a hefyd rhai o jôcs digri’r gwr poblogaidd hwn o Hendy-gwyn ar Daf.
Braf oedd gweld bod cymaint wedi dod i fwynhâi’r arlwy a gafwyd.
Bydd Tudur Wyn yn ôl yn diddanu ar nos Sadwrn, 6 Awst, felly cofiwch am y noson arbennig hon hefyd.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.