THE latest community news from Talgarreg.
Capel y Fadfa
FORE Sul nesaf am 10.30yb cynhelir Cwrdd Diolchgarwch y plant yn y festri.
Mae’r plant yn gwahodd pawb i ymuno â hwy i ddiolch am y cynhaeaf ac am bob dim arall.
Yn ystod yr oedfa bydd y plant yn rhannu salad ffrwythau i bawb, fel arwydd o ddiolch.
I Gapel Brondeifi aeth rhai o’r aelodau brynhawn Sul diwethaf i ymuno mewn oedfa arbennig iawn, gyda’r Parch Alun Wyn Dafis yn cael ei sefydlu yn weinidog.
Cafwyd oedfa fendithiol, gyda siaradwyr gwadd yn tynnu sylw pawb gyda’i eiriau priodol wrth ddymuno’n dda i’r gweinidog a’r aelodau.
Cafwyd negeseuon o sawl rhan o’r wlad drwy gyfrwng fideo hefyd, eto gyda chenadwrïau cymwys iawn.
I orffen y dathlu daeth pawb i’r festri i fwynhau te ysblennydd a oedd wedi cael ei baratoi gan wragedd caredig y capel.
Capel Pisgah
CYNHELIR Cwrdd Diolchgarwch y capel nos Wener nesaf am 7yh.
Ysgol Gynradd
BYDD yr ysgol yn cynnal noson bingo yn neuadd y pentref ar nos Iau, 20 Hydref, am 7yh.
Cylch Meithrin a Ti a Fi
YN ystod y tymor, enwebwyd Cylch Meithrin a Ti a Fi ar gyfer gwobrau’r Mudiad Meithrin.
Daeth y Cylch i’r brig yn y categori ‘Darpariaethau’. Cyhoeddir y canlyniad yn seremoni wobrwyo’r Mudiad Meithrin ar ddydd Gwener, 21 Hydref, rhwng 4.30yp a 5.30yh yng Ngwesty’r Marine, Aberystwyth.
Croeso i bawb fod yn bresennol yn y seremoni. Os oes diddordeb gennych i fynychu rhowch wybod i Teleri Morris-Thomas cyn dydd Gwener, 14 Hydref.
Bydd cyfarfod cyffredinol y Cylch nos Fercher yma, 12 Hydref, am 8yh (newid amser o 7.30yh) yn y neuadd i drafod rhediad a digwyddiadau’r tymor hwn. Pawb i fod yn bresennol os yn bosib plîs.
Bydd y Cylch yn cau ar ddydd Iau, 20 Hydref, ar gyfer hanner tymor ac yn ail-gychwyn ar ddydd Llun, 31 Hydref.
Adran
CAFWYD noson wych yn yr Adran wythnos ddiwethaf. Braf oedd gweld gymaint o wynebau hen a hefyd newydd wedi ymuno. Diolch i Helen Mary ac Elliw Grug Davies am noson hwylus dros ben.
Bydd Adran yn cael ei gynnal nesaf yn Llangrannog, nos Fercher (12 Hydref), am 6.15yh am gystadleuaeth dan-dô yr Urdd.
Hen Gapel
AR nos Fawrth, 18 Hydref, am 7.30yh, cynhelir noson arbennig nodi 140 o flynyddoedd ers y Troad Allan yn Llwynrhydowen.
Edrychwn ymlaen at groesawi Elizabeth Colqhoun, gor-wyres Gwilym Marles o Swydd Efrog i ymuno gyda ni am y noson. Byddwn hefyd yn dathlu rhodd o harmoniwm hardd at ddefnydd y capel.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.