THE latest community news from Talgarreg.
Capel Y Fadfa
CYNHALIWYD yr oedfa fore Sul diwethaf am 10.30yb yng nghwmni’r gweinidog, y Parch Wyn Thomas unwaith eto ac roedd croeso i aelodau a ffrindiau’r achos i’r oedfa foreol hyn. Cafwyd neges ergydiol a oedd yn gwneud i bawb feddwl am bob dim sy’n digwydd o’u cwmpas a bod angen agor ein calonnau a derbyn newidiadau sydd yn digwydd yn y byd heddiw. Estynnodd y gweinidog gydymdeimlad y gynulleidfa a theulu Nantyglyn yn dilyn profedigaeth deuluol yn ddiweddar. Erbyn hyn mae’r ymarferion wedi cychwyn tuag at gyflwyniad Undodiaid Cymru yn y seremoni agoriadol cyrddau blynyddol yr enwad ym Mirmingham ym mis Ebrill. Bydd rhai o aelodau Côr y Fflam ynghyd ag unigolion o gapeli’r enwad a’n gweinidogion yn cymryd rhan yn y perfformiad sydd wedi ei baratoi gan Dylan Iorwerth.Dydd Sul nesaf cynhelir Cymanfa Bwnc ar gyfer aelodau Capeli Bröydd Marles, sef Capel y Fadfa, Llwynrhydowen, Pantydefaid yng Nghapel y Graig am 2.30yp. Y Parch Wyn Thomas fydd yng ngofal y trefniadau. Byddai’n dda cael cynulleidfa luosog yn y digwyddiad blynyddol hwn unwaith eto eleni. Oherwydd digwyddiadau eraill ar y Suliau canlynol, ni fydd oedfa yng Nghapel y Fadfa tan 9 Ebrill, pryd y gynhelir oedfa gymun am 3yp.
Dyddiad Cau
BYDD Eisteddfod Gadeiriol Capel y Fadfa yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn, 6 Mai, yn y Neuadd Goffa. Eleni cynigir gwobrau hael iawn i’r enillwyr, yn enwedig yn adran yr oedolion. Rhoddir cadair fechan a £20 gan Deulu Nant y Glyn am ysgrifennu geiriau i emyn ar y testun ‘Y Pedwar Tymor’. Cynigir Tlws yr Ifanc a £20 am gyflwyno dau ddarn o lenyddiaeth ac mae’r wobr hyn yn cael ei roi gan John ac Aerona Davies, Maesycrugiau. Mae’r dyddiad cau i dderbyn y cyfansoddiadau llên i fod yn llaw’r beirniad erbyn 22 Ebrill a’r cynnyrch arlunio i fod yn llaw’r ysgrifennydd erbyn 22 Ebrill. Os am ragor o fanylion cysylltwch ag Emyr Griffiths ar 01545 590383 neu Enfys ar 01545 590295.
Drama
CYNHELIR drama gan gwmni Llandudoch nos Wener, 7 Ebrill, yn y Neuadd Goffa. Erbyn hyn mae pawb yn gwybod am lwyddiant y cwmni llewyrchus hwn, gan fod yr actorion yn hen gyfarwydd â pherfformio ar lwy-fan y neuadd.
Urdd y Benywod
NOS Iau ddiwethaf bu aelodau Urdd y Benywod Ceredigion yn croesawu llywydd cenedlaethol y mudiad sef Janet Poole, Bolton i ginio yng Ngwesty Glanyrafon. Cafwyd anerchiad arbennig gan y llywydd a noson gysurus yn ei chwmni. Yr elusen sy’n derbyn cefnogaeth y merched yn genedlaethol eleni yw Cymdeithas Genedlaethol Blant Byddar ac roedd Janet wrth ei bodd fod y pwyllgor canolog wedi dewis yr elusen hon fel y prosiect cenedlaethol ar gyfer ei blwyddyn yn y swydd ac y roedd am annog pawb, i godi gymaint â phosibl ar gyfer achos mor deilwng â hyn.
Dyddiad i’r dyddiadur
CYNHELIR Cwis Pasg yn Nhafarn Glanyrafon ar nos Iau, 13 Ebrill, am 7.30yh. Bydd gwobr o £20 i’r tîm buddugol a bydd modd cael hyd at bump mewn tîm. Codir tâl mynediad o £2 i oedolion a £1 blant. Bydd holl elw’r noson yn mynd tuag at Gylch Meithrin y pentref.







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.