THE latest community news from Talgarreg.
Capel y Fadfa
DDYDD Sul diwethaf cynhaliwyd Cwrdd Gwanwyn y Gymdeithas Undodaidd yng Nghapel Llwynrhydowen am 1.30yp. Braf oedd cael cwmni aelodau o wahanol gapeli’r Smotyn Du i’r oedfa brynhawnol hyn a oedd yng ngofal y Parch Wyn Thomas. Cafwyd neges amserol a phwrpasol gan y gweinidog. Roedd pwyllgor gwaith y Gymdeithas ar ôl y cwrdd blynyddol dan gadeiryddiaeth y llywydd, Nans Davies ac i ddilyn aeth pawb i’r festri i fwynhau paned a chacen a chyfle i roi’r byd yn ei le. Bydd yr oedfa ddydd Sul nesaf yn y capel am 3yp, gyda’r gweinidog yn cael cyfle i rannu’r cymun unwaith eto. Croeso cynnes i’r aelodau a ffrindiau’r achos.
Eisteddfod
COFIWCH am Eisteddfod Gadeiriol Capel y Fadfa a gynhelir ar ddydd Sadwrn, 6 Mai, yn y Neuadd Goffa. Cyfansoddiadau llên i fod yn llaw’r beirniad erbyn 22 Ebrill a’r cynnyrch arlunio i fod yn llaw’r ysgrifennydd erbyn 22 Ebrill. Am ragor o fanylion cysylltwch ag Emyr Griffiths (01545 590383) neu Enfys (01545 590295).
Capel Pisgah
NI fydd Cwrdd Cymundeb ym Mhisgah ddydd Sul nesaf gan fod Cymanfa Ganu cylch Cei Newydd yng Nghapel Maenygroes.
Dwy ddrama
CYNHELIR dwy ddrama gan gwmni Llandudoch nos Wener am 7.30yh yn y Neuadd Goffa, dan nawdd Capel Pisgah. Croeso cynnes i bawb, ni chewch eich siomi gyda’r criw hyn.
Taith gerdded
BYDD taith gerdded flynyddol y capel ar brynhawn Sadwrn, 22 Ebrill. Pawb i gwrdd ym maes parcio’r capel am 1yp. Cyng Gareth Lloyd fydd yn arwain y daith eleni. Croeso cynnes i bawb.
Gwyl y Pentref
CYNHELIR cyfarfod i drafod a threfnu Gwyl Talgarreg 2017 ar nos Fercher, 5 Ebrill yn Neuadd y Pentref am 8yh. Dewch yn llu yw’r neges i fod yn rhan o’r trefniadau.
Cwis Pasg
CYNHELIR Cwis Pasg yn Nhafarn Glanyrafon ar nos Iau, 13 Ebrill, am 7.30yh. Bydd gwobr o £20 i’r tîm buddugol a bydd modd cael hyd at bump mewn tîm. Codir tâl mynediad o £2 i oedolion a £1 blant. Bydd holl elw’r noson yn mynd tuag at Gylch Meithrin y pentref.





.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.