THE latest community news from Talgarreg
Capel y Fadfa
DDYDD Sul diwethaf cynhaliwyd Taith Gerdded flynyddol Cymdeithas Undodaidd ardal y Smotyn Du tuag at yr elusen Calonnau Cymru.
Roedd tua 30 o bobl a phlant yn dechrau ar y daith o Gapel Brondeifi ac ymlaen i Gapel Caeronnen.
Roedd paned a chacen yn disgwyl pawb ar ôl y cerdded.
Er gweithiaf ambell i gawod o law, cyrhaeddodd pawb yn ôl yn saff.
Gwnaed y diolchiadau gan Nans Davies, llywydd y gymdeithas.
Cofiwch noddi’r cerddwyr os nad ydych wedi gwneud yn barod.
Bydd yr oedfa nesaf yn y capel ar ddydd Sul, 23 Gorffennaf, am 10.30yb yng nghwmni ein gweinidog, y Parch Wyn Thomas.
Canu Gwlad
NOS Sadwrn yng Ngwesty Glanyrafon bydd y ddeuawd Dafydd a Lisa yn ôl yn diddanu.
Cofio
HYFRYD oedd clywed llais y diweddar Barch Caradog Evans yn dweud stori Tomos a Marged ar un o raglenni Radio Cymru’r wythnos ddiwethaf.
Roedd dawn dweud Caradog yn arbennig, yn enwedig wrth draethu hanes y ddau yma o waith y diweddar Barch W J Gruffydd.
Roedd y rhaglen arbennig hon wedi cael ei recordio yn festri Capel Brynrhiwgaled flynyddoedd yn ôl bellach, ond roedd ffresni’r stori mor ddoniol nawr ag yr oedd flynyddoedd yn ôl.
Ysgol Gynradd
MAE’R ysgol gynradd yn cynnal noson o Rasys Parlwr a Rhostio Mochyn yn y Neuadd Goffa, nos Iau am 7.30yh.
Bydd elw’r noson yn mynd tuag at yr ysgol.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.