THE latest community news from Talgarreg

Capel y Fadfa

CYNHALIWYD yr oedfa ddydd Sul diwethaf am 3yp yng nghwmni’r gweinidog, y Parch Wyn Thomas.

Cafwyd ganddo neges amserol yn ôl yr arfer.

Bydd yr oedfa nesaf ar ddydd Sul, 20 Awst, am 1.30yp, gyda’r gweinidog yn rhannu’r cymun.

Croeso i aelodau a ffrindiau’r achos.

Canu Gwlad

NOS Sadwrn bydd y ddeuawd newydd ‘Harmoneli’ o Sir Fôn yn dod ar ymweliad â Gwesty Glanyrafon ar wahoddiad Hefin a Megan.

Dewch i glywed Karen a Gareth yn mynd drwy eu pethau am y tro cyntaf yn yr ardal.

Cymdeithas yr Henoed

BYDD trip a chinio Cymdeithas yr Henoed ddydd Iau, gan adael tu allan Tafarn Glanyrafon am 10yb.

Byddant yn ymweld ag ardal Sir Benfro, gan alw ym Melin Tregwynt ac yna siop Vincent Davies ger Hwlffordd.

Dychwelyd i Dalgarreg erbyn 5.45yh ar gyfer swper yn Nhafarn Glanyrafon.

Yn ôl yr arfer gofynnir i bawb i gyfrannu at gostau’r bws.

Bydd swper am ddim i’r rhai sydd yn 70 oed a throsto ac yn byw o fewn cyfeiriad post Talgarreg.

Cofiwch fod croeso i chi ddod a ffrindiau gyda chi.

Ni chynhelir y trip os nad fydd nifer digonol yn mynd, ond mi fydd y swper yn cael ei gynnal beth bynnag.

Os nad ydych am ddod ar y trip, mae croeso cynnes iawn i chi fynychu’r swper yn unig.

Os hoffech ymuno ar gyfer y trip a/neu’r cinio a wnewch chi roi gwybod i Gwyneth ar 590482.

Eglwys Dewi Sant

UNWAITH eto eleni cynhaliwyd te prynhawn blasus yn yr eglwys, pan ddaeth yr ardalwyr ynghyd ag aelodau o’r eglwysi eraill at ei gilydd i fwynhau’r arlwy.

Diolch i bawb a ddaeth i gefnogi.

Cylch Meithrin a Ti a Fi

ERBYN hyn mae cyfanswm yr arian a godwyd ar y Taith Tractorau a gynhaliwyd yn ddiweddar wedi cyrraedd £1,339.60.

Cyflwynwyd cyfraniad o £550 at waith Uned SCBU (llun uchod), sef uned gofal arbennig i fabanod yn Ysbyty Glangwili yn dilyn y gofal arbennig a dderbyniodd Cerdin, Fiona a Rhys Jones, Montigido, Llanarth llynedd.

Diolch i Catrin Scourfield o Fanc Barclays am gefnogi ein hachos drwy’r cynllun £ am £ gan Fanc Barclays.

Gwerthfawrogwn y £1,000 a gyflwynwyd i Gylch Meithrin a Ti a Fi Talgarreg drwy’r cynllun.

Dyma ganlyniadau enillwyr mis Gorffennaf, sef y Clwb 100 olaf am eleni: 1 Grug Rees, Rhosdir; 2 Aled Jenkins, Mock Farm; 3 Nia Venville, Aberdulais.

Diolch i bawb am eich cefnogaeth eleni eto.

Byddwn yn dechrau’r Clwb 100 nesaf yn y tymor newydd ac edrychwn ymlaen at dderbyn eich tâl aelodaeth pryd hynny am flwyddyn arall.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]