THE latest community news from Talgarreg

Capel y Fadfa

BYDD yr oedfa ddydd Sul nesaf am 1.30yp gyda’r Parch Wyn Thomas yn rhannu’r cymun.

Ar ddydd Sul, 27 Awst, cynhelir Cwrdd Undebol i aelodau Capeli Bröydd Marles a Gwenog yn Hen Gapel Llwynrhydowen am 2yp dan ofal ein gweinidog unwaith eto, pryd y gweinir mefus a hufen ar ddiwedd yr oedfa.

Canu Gwlad

NOS Sadwrn roedd y ddeuawd newydd ‘Harmoneli’ ar ymweliad â Gwesty Glanyrafon ar wahoddiad Hefin a Megan. Cafwyd noson arbennig yn eu cwmni.

Tudur Wyn fydd yn diddanu ar nos Sadwrn, 9 Medi.

Cymdeithas yr Henoed

BU trip a chinio’r gymdeithas ddydd Iau diwethaf. Gadawyd y pentref am 10yb, gan deithio i lawr i ardal Sir Benfro a galw ym Melin Tregwynt ac yna siop Vincent Davies, ger Hwlffordd.

Cafwyd amser bendigedig a golygfeydd arbennig yn ystod y daith a nôl i Dalgarreg erbyn 5.45yh ar gyfer swper yn Nhafarn Glanyrafon.

Diolch i’r swyddogion am wneud y trefniadau unwaith eto eleni, roedd pawb wedi mwynhau’r arlwy yn fawr.

Neuadd Goffa

AR nos Sadwrn, 9 Medi, am 6.30yh cynhelir noson arbennig yn y Neuadd Goffa dan yr enw ‘Miri Medi’.

Bydd Ras Peli i gychwyn ac i ddilyn cynhelir pryd dau gwrs ac adloniant gan Mari Mathias.

Noson o hwyl i’r teulu cyfan i’w fwynhau ac i godi arian tuag at gynnal a chadw’r neuadd.

Os am docynnau, cysylltwch mor fuan â phosib ag aelodau’r pwyllgor.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]