THE latest community news from Talgarreg
Capel y Fadfa
CYNHALIWYD yr oedfa ddydd Sul diwethaf am 1.30yp gyda’r Parch Eirian Wyn Lewis, Mynachlog-ddu yn ein harwain mewn oedfa Ddiolchgarwch.
Yn llywyddu oedd ein gweinidog, y Parch Wyn Thomas.
Hyfryd oedd gweld cymaint wedi dod ynghyd ar brynhawn braf o hydref.
Cafwyd neges arbennig gan y gwr gwadd ac roedd y gair diolch yn bwysig iawn drwy’r bregeth, sef un o’r geiriau cyntaf yr ydym oll yn ei ddysgu.
Wrth yr organ oedd Carol Rees.
Ar ddiwedd yr oedfa estynnodd ein gweinidog longyfarchiadau i deulu Rhydlydan ar enedigaeth wyr bach - mab i Siôn a Martha, hefyd diolchodd i bawb a fu’n torri’r borfa ac yn tacluso o gwmpas y capel a’r fynwent yn ddiweddar.
Soniodd hefyd am ymweliad llywydd cenedlaethol yr enwad ag ardal y Smotyn Du ar nos Sadwrn, 28 Hydref; noson Gymreig, cawl a chân yn Neuadd Talgarreg sydd wedi cael ei drefnu ar ei gyfer.
Tocynnau yn £7.50 ac ar werth diwedd yr wythnos.
Gwnaed apêl am gefnogaeth i’r noson, yn enwedig gan y bydd rhai o bobl ifanc y capel yn cymryd rhan.
I’r festri aeth pawb wedyn i fwynhau paned o de a chacennau o bob lliw a llun, wedi’u paratoi gan rai o ferched caredig y capel.
Cyfle i gymdeithasu gyda ffrindiau bore oes, a oedd wedi teithio o bell ac agos i fod yn bresennol yn yr oedfa neilltuol a gafwyd unwaith eto eleni.
Bydd yr oedfa nesaf ar ddydd Sul, 21 Hydref, pan fydd plant a phobl ifanc y capel yn cynnal eu Cwrdd Diolchgarwch yn y festri am 10.30yb, croeso cynnes i unrhyw un i ymuno yn yr oedfa arbennig hon.
Capel Pisgah
CYNHELIR oedfa Ddiolchgarwch y capel, nos Wener am 7yh.
Y pregethwr gwadd fydd y Parch Guto Llywelyn.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.