THE latest community news from Talgarreg

Capel y Fadfa

CYNHALIWYD Cwrdd Diolchgarwch y plant ddydd Sul diwethaf yn y festri am 10.30yb.

Cyfle i wrando ar y plant yn mynd drwy eu pethau drwy ddiolch am bob dim ac i ymuno gyda hwy wrth iddynt rannu ffrwythau’r maes unwaith eto.

Cyflwynodd ein gweinidog dystysgrifau arholiad i’r plant am eu gwaith da, pan gynhaliwyd hon yn ddiweddar.

Cofiwyd am Dai Griffiths, Y Ffarm sydd ar hyn o bryd yn yr ysbyty, hefyd John Evans, Brynlluest a Kelvin Evans, Meini Bach sydd wedi derbyn llawdriniaethau yn ddiweddar.

Roeddem yn ffodus iawn i gael dwy i chwarae’r piano, sef Carol Rees a Catrin Evans.

Hyfryd oedd bod yn bresennol mewn oedfa mor arbennig yng nghwmni’r plant.

Llywydd Cenedlaethol

BYDD ymweliad Llywydd Cenedlaethol yr enwad Undodaidd ag ardal y Smotyn Du yn digwydd nos Sadwrn.

Noson Gymreig o Gawl a Chân sydd wedi cael ei drefnu yn Neuadd Talgarreg ar ei gyfer eleni. Mae’r tocynnau yn £7.50 ac ar gael oddi wrth Megan.

Mae yna apêl am gefnogaeth i’r noson, yn enwedig gan y bydd rhai o bobl ifanc yr Ysgol Sul yn cymryd rhan.

Bydd angen cael enwau pawb sydd am ddod erbyn bore Iau, er mwyn cael gwybod faint o gawl ayyb sydd angen paratoi ar gyfer y digwyddiad arbennig hwn.

Cwn Hela

BORE Sadwrn diwethaf roedd amryw o geffylau o bob lliw wedi troi allan i ddilyn Cwn Llanwnnen yn y pentref a’r ardal o amgylch, ar wahoddiad Hefin a Megan, Glanyrafon.

Braf oedd gweld cymaint o rai ifanc ar gefn y ceffylau hardd.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]