THE latest community news from Talgarreg

Llywydd Cenedlaethol

BU ymweliad llywydd cenedlaethol yr enwad Undodaidd ag ardal y Smotyn Du yn llwyddiant mawr nos Sadwrn diwethaf.

Noson Gymreig o Gawl a Chân oedd wedi cael ei drefnu yn y neuadd ar ei gyfer.

Roedd y Parch Charles Vanden Broeder yn ymweld â’r rhan hyn o Gymru am y tro cyntaf.

Croesawyd pawb i’r neuadd gan Nans Davies, sef llywydd Undodiaid Ceredigion. Roedd y cawl wedi cael ei baratoi gan Sirian Davies, a’r bara brith a’r Welsh Cakes gan aelodau’r gwahanol gapeli.

Bu rhai o bobl ifanc y gwahanol ysgolion Sul, sef Swyn, Tirion, Ela Mablen, Erin, Fflur a Caio yn diddanu’r gynulleidfa ac roedd yn amlwg fod y llywydd wedi mwynhau’r arlwy bendigedig.

Yn lle cael anerchiad gan y llywydd, cafwyd trafodaeth ar pam roedd pawb yn Undodiaid ac wedi sefyll gyda’r enwad ar hyd eu hoes.

Cyflwynodd Megan anrheg i’r gwr gwadd a hi gynigodd y diolchiadau i bawb am bob rhodd a gweithred i wneud y noson yn un o lwyddiant.

Bore Sul roedd y llywydd cenedlaethol yn teithio lawr i Gapel Nottage, ger Porthcawl i gynnal oedfa undebol yno ar gyfer Undodiaid De Cymru. Wedyn, mynd am gartref nôl i Fanceinion, lle erbyn hyn mae ef wedi ymddeol i fyw.

Anagramau

YN ddiweddar cynhaliodd swyddogion Cylch Meithrin a Ti a Fi’r pentref gystadleuaeth anagramau enwau siocledi. Llwyddwyd i godi £228, gyda 59 wedi ymgeisio.

Roedd sawl un wedi cael atebion cywir, felly roedd yn rhaid tynnu enwau allan o het â’r enw cywir cyntaf ddaeth allan oedd Eirlys Vobe, gyda Laura a Meleri yn ail. Roedd Eirlys wedi rhoi’r wobr gyntaf yn ôl i’r Cylch, felly diolchwyd iddi hi am ei haelioni.

Llwyddiant

DAETH llwyddiant unwaith eto i’r Parch Cen Llwyd, Ty’r Ysgol wrth iddo ennill cadair Eisteddfod Gadeiriol Pumsaint nos Sadwrn diwethaf.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]