THE latest community news from Talgarreg

Adran y Pentre

NOS Iau ddiwethaf bu aelodau’r Adran yn cymryd rhan yng Ngharnifalwn yr Urdd yn Theatr Felinfach a chael cryn lwyddiant yn y gwahanol gystadlaethau.

Da iawn pawb a fu’n cystadlu.

Noson Caws a Gwin

CYNHELIR noson gymdeithasol i godi arian ar gyfer Cylch Meithrin a Ti a Fi y pentref nos Fercher yn Nhafarn Glanyrafon am 7.30yh.

Pris mynediad yn £4, â’r tocynnau ar gael gan y rhieni ac aelodau’r pwyllgor.

Bydd ocsiwn ar y noson hefyd.

Croeso cynnes i bawb.

Gyrfa Chwist

NOS Iau cynhelir Gyrfa Chwist yn Nhafarn Glanyrafon ac yn ôl yr arfer bydd croeso cynnes i bawb.

Bydd holl elw’r noson yn mynd tuag at elusennau lleol, felly pawb sy’n hoff o chwarae cardiau, ewch draw i fwynhau noson gymdeithasol arbennig iawn.

Noson Elusennol

NOS Wener cynhelir noson eitha’ arbennig yn Nhafarn Glanyrafon am 8yh, pan fydd Hefin a Megan yn rhannu’r arian sydd wedi cael ei godi ar hyd y flwyddyn mewn digwyddiadau yn y dafarn.

Mae’r ddau wedi bod yn cynnal gweithgareddau ers dros 30 o flynyddoedd er mwyn rhoi cymorth ariannol i elusennau lleol.

Bydd y ddau yn falch iawn i groesawu pawb i’r noson agored hyn, felly plis ewch draw i’w cefnogi.

Capel y Fadfa

BRAF o beth oedd cael cwmni ein gweinidog, y Parch Wyn Thomas nôl gyda ni yn dilyn ei salwch, fore Sul diwethaf yn cynnal yr oedfa am 10.30yb.

Cafodd y cyfle i rannu’r cymun am y tro olaf am eleni a chafwyd ganddo neges amserol a phriodol iawn.

Estynnodd ein gweinidog bob cydymdeimlad â theulu Euros Jones a fu farw’r wythnos ddiwethaf.

Wrth yr organ oedd Enfys Llwyd.

Cynhaliwyd pwyllgor yr eisteddfod yn syth ar ôl y gwasanaeth a phleserus yw cyhoeddi y bydd yr eisteddfod yn cael ei chynnal ar y Sadwrn cyntaf o fis Mai y flwyddyn nesaf.

Bydd mwy o wybodaeth ar gael maes o law am y digwyddiad blynyddol hwn.

Ysgol yn 140

MAE Ysgol Talgarreg yn dathlu ei phen-blwydd eleni yn 140 oed ac i ddathlu’r faith cynhaliwyd dau gyngerdd yn neuadd y pentref i fwynhau’r achlysur nos Iau a nos Wener ddiwethaf.

Llywydd y ddwy noson oedd Lloyd Jones, Mynachlog a fydd yn lansio ei ail gyfrol o hanes Talgarreg yn y flwyddyn newydd.

Roedd yn amlwg bod y plant i gyd wedi mwynhau’r profiad o fod ar y llwyfan, gan fod pawb yn gwybod eu gwaith ar lafar a chân â phob un yn gwenu yn braf drwy’r perfformiadau.

Ymddeol

BYDD Meinir Jones yn ymddeol ar ddiwedd y tymor hwn yn dilyn cyfnod o 34 o flynyddoedd fel athrawes yn ysgol y pentre.

Mae’r staff a’r rhieni yn bwriadu gwneud casgliad fel rhodd arbennig iddi am oes o wasanaeth diflino i’r ysgol, felly mae croeso cynnes i unrhyw un gyfrannu i’r ysgol mor fuan â phosib.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]