THE latest community news from Talgarreg
Capel y Fadfa
CYNHALIWYD yr oedfa ddydd Sul diwethaf am 3yp gyda’n gweinidog, y Parch Wyn Thomas yn gwasanaethu. Wrth yr organ oedd Enfys Llwyd. Braf oedd cael cwmni Gwenllian Llwyd yn yr oedfa ac roedd hi am help rhai o’r merched oedd yn bresennol gyda phrosiect coleg mae’n ei baratoi ar hyn o bryd. Roedd pawb yn teimlo ei bod yn fraint cael bod o gymorth a dymunwyd yn dda iddi yn y dyfodol.
Bydd yr oedfa nesaf ar ddydd Sul, 18 Chwefror am 1.30yp, gyda’n gweinidog yn rhannu’r cymun.
Eisteddfod
MAE rhaglenni Eisteddfod Gadeiriol Capel y Fadfa a gynhelir ar ddydd Sadwrn, 5 Mai ar gael drwy gysylltu ag Emyr ar 01545 590383 neu Enfys ar 01545 590295.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]



.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)



Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.