THE latest community news from Talgarreg

Capel y Fadfa

ROEDD yr oedfa ddydd Sul diwethaf am 1.30yp gyda’r gweinidog, y Parch Wyn Thomas yn rhannu’r cymun.

Cafwyd neges arbennig o amserol ganddo yn atgoffa pawb i wneud y pethau bychan ac i beidio cymryd dim byd yn ganiataol. Wrth yr organ oedd Siwsan Dafis.

Bydd yr oedfa nesaf ar ddydd Sul, 4 Mawrth am 3yp.

Erbyn hyn mae rhaglen Eisteddfod Gadeiriol Capel y Fadfa a gynhelir ar ddydd Sadwrn, 5 Mai yn neuadd y pentref wedi dod o’r wasg. Cysylltwch ag Emyr ar 01545 590383 neu Enfys ar 01545 590295 am raglen neu ewch i wefan Cymdeithas Eisteddfodau Cymru i weld y manylion i gyd.

Cawl a Chân

CYNHELIR noson o Gawl a Chân yn y Neuadd Goffa ar nos Wener, 2 Mawrth am 6.30yh. Croeso i bawb i ddod i fwynhau noson Gymreig draddodiadol a chyfle i gymdeithasu gyda ffrindiau. Mynediad: £5 i oedolion, £1 i blant.

Dathlu’r 70

HYFRYD oedd gweld Albie a Beti (Rhandir gynt) ar y rhaglen Prynhawn Da ar y teledu’r wythnos ddiwethaf wrth iddynt ddathlu pen-blwydd eu Priodas Platinwm, sef 70 mlynedd o fywyd priodasol.

Roedd aelodau o’r teulu a chymdogion yn olrhain hanes y ddau ar hyd eu bywyd ar y rhaglen, atgofion melys oeddynt hefyd. Roedd Albie yn arfer canu gyda Thriawd Dyffryn Clettwr a dyna sut roedd y ddau wedi cwrdd, mewn cyngerdd flynyddoedd lawer yn ôl.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]