THE latest community news from Talgarreg
Capel y Fadfa
YN anffodus, oherwydd salwch ein gweinidog, bu’n rhaid newid amser ein gwasanaeth ddydd Sul diwethaf.
Yn hytrach na chynnal oedfa hwyr prynhawn, cynhaliwyd y cwrdd undebol am 10.15yb yng nghwmni’r Parch Eric Jones, Aberdâr.
Cafwyd ganddo neges amserol yn nodi rhinweddau’r Pasg, fel Gwyl y Gwanwyn ac adeg i bob dim i flagura yn y caeau a’r meysydd.
Roedd yn braf i weld aelodau o gapeli Undodaidd eraill yn bresennol ynghyd ag Elizabeth Jones o Fryngwyn a oedd wedi troi i mewn am y tro cyntaf.
Wrth yr organ oedd Carol a gwnaed y casgliad gan Jac a Mari.
Rhoddwyd gair o ddiolch i’r Parch Eric Jones gan Megan a dymunodd yn dda i’r Parch Wyn Thomas sydd ar hyn o bryd yn Ysbyty Treforys.
Cofiodd hefyd am Johnny Jones sy’n derbyn llawdriniaeth yn Ysbyty Glangwili a dymunodd bob llwyddiant i Rhidian Thomas sydd wedi derbyn doethuriaeth mewn biowyddorau ar rywogaethau ymledol drwy gyfrwng y Gymraeg yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Ar ran y gweinidog ac aelodau’r capel cyflwynodd Eluned Rees rodd o waith y Prifardd Donald Evans i Megan a Peter ar achlysur eu priodas yn ddiweddar.
Cwis Pasg
NOS Iau ddiwethaf cynhaliwyd Cwis Pasg yn Nhafarn Glanyrafon am 7.30yh.
Roedd yn braf i weld 14 o dimau’n cymryd rhan ac aelodau tîm Cenfil a Iona oedd yn fuddugol ar ddiwedd y noson.
Roedd holl elw’r digwyddiad yn mynd tuag at Elusennau’r Gymdeithas Hen Beiriannau’r ardal a diolch i’r tîm ar y brig am roi’r wobr yn ôl tuag at yr elusennau.
Diolch i bawb a ddaeth i gymryd rhan yn hwyl y noson ac wedi gwneud ychydig o elw hefyd at achosion da.
Eisteddfod
CYNHELIR Eisteddfod Gadeiriol Capel y Fadfa ar ddydd Sadwrn, 5 Mai yn neuadd y pentref.
Am raglen cysylltwch ag Emyr ar 01545 590383 neu Enfys ar 01545 590295 neu ewch i wefan Cymdeithas Eisteddfodau Cymru i weld y manylion i gyd.
Dyddiad cau i dderbyn unrhyw waith cartref fydd 22 Ebrill.
Adran y Pentref
BU aelodau’r Adran yn cael hwyl wrth wneud gwaith celf yng Nghanolfan Pot-sian yn ddiwethaf.
Cafwyd sbri gyda’r clau a’r peintio a phob dim arall.
Noson wahanol o lwyddiant a gwir foddhad i’r criw i gyd a oedd yno.
Capel Pisga
COFIWCH am daith gerdded flynyddol y capel ar ddydd Sadwrn, 21 Ebrill; gadael maes parcio’r capel am 1yp.
Gymanfa Bwnc
DDYDD Sul nesaf cynhelir Cymanfa Bwnc yng Nghapel y Fadfa am 1.30yp; croeso cynnes i aelodau Capeli Llwynrhydowen, Pantydefaid a’r Graig i ymuno yn y digwyddiad blynyddol hwn.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]