THE latest community news from Trawsgoed

Cyngor Cymuned

DWR ger y Gors ar y ffordd C1052: Nododd yr aelod lleol ei fod wedi derbyn gwybodaeth gan Gyngor Sir Ceredigion y byddid yn cyflawni’r gwaith o fewn yr wythnosau nesaf.

Rhiw Dolgwybedig: Problemau gyda thyllau yn y ffordd yn parhau.

Draeniau o’r Terrace, Cnwch Coch i Rhydyfagwyr ac o Gwmnewidion i Rhydyfagwyr: Adroddwyd bod y Cyngor Sir wedi trefnu yn ddiweddar i wacâu’r draeniau a oedd wedi gorlenwi a bod y glanhawr ffordd wedi bod drwy’r pentref hefyd.

Llygredd yn Afon Pant yr Haidd, Llanafan: Dim diweddariad, gyda’r angen i gadw llygad ar y sefyllfa a chadw mewn cysylltiad gyda’r awdurdodau perthnasol.

Draeniau a thyllau yn y ffyrdd sydd angen sylw: Cyfeiriwyd at nifer o ddraeniau yn y ffordd sydd angen glanhau a gwacâu o fewn yr ardal sy’n peri i ddwr glaw lifo ar hyd y ffyrdd gan niweidio’r arwynebedd. Rhestrwyd nifer o ffyrdd sydd â thyllau ynddynt ac angen tynnu sylw’r Cyngor Sir.

Arwyddion Ffyrdd: Parhau i aros am arwydd ffordd am bentref Llanafan, ger Erw Lon wedi iddo ddiflannu ychydig yn ôl.

Coed Ffordd Uchaf, Llanafan: Adroddwyd bod y contractwr ar ran Prifysgol Aberystwyth wedi cwblhau’r gwaith o gwympo coed penodol ar hyd y ffordd a bellach mae’r ardal yn ddiogel o’r coed oedd mewn peryg o gwympo.

Rheiliau Pren gyferbyn â Phlas y Creuddyn: Sefyllfa’n parhau ble mae rheiliau pren gyferbyn â Phlas y Creuddyn sydd wedi dirwyo ac angen ei adnewyddu. Y clerc i ddilyn lan gyda’r Cyngor Sir.

Llinellau Ffyrdd: Nifer o linellau ffyrdd angen ail-baentio o fewn yr ardal.

Coed ger Minffordd, Llanafan: Y clerc i ddilyn lan gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i geisio sicrhau torri’r canghennau coed sy’n gorwedd allan i’r ffordd.

Canghennau ymestyn allan i’r ffordd: Trafodwyd bod ambell i goeden beryglus a changhennau’n ymestyn allan i’r ffyrdd sydd angen sylw o fewn yr ardal. Y clerc i gysylltu gyda’r Cyngor Sir i dynnu sylw at y mater.

Tarmac: Ychydig islaw i’r Gysgodfa Bws yng Nghnwch Coch mae’r tarmac wedi dod yn rhydd wrth ochr y ffordd ble mae dwr glaw yn cronni bellach ac sydd angen sylw swyddogion y Cyngor Sir.

Planhigyn Japanese Knotweed: Cafwyd adroddiad fod yna blanhigyn y Japanese Knotweed yn tyfu mewn eiddo preifat yn yr ardal sydd mewn peryg o ledaenu i dai cymdogion. Cytunwyd bod angen cysylltu gyda’r Cyngor Sir i dynnu sylw i gyfyngu’r tyfiant.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]