THE latest community news from Tregaron

English Methodist Church

The service on Sunday will be held in the Pantyfedwen hall, Pontrhydfendigaid, led by David Lowe and beginning at 2.30pm.

Capel Bwlchgwynt

Bore Sul, 21 Hydref cynhelir Oedfa Ddiolchgarwch Deuluol dan ofal Parch Carwyn Arthur.

Derbynnir bocsys ‘Operation Christmas Child’ yn ôl yn ystod y gwasanaeth.

Cymdeithas y Chwiorydd

Cynhelir Swper Cynhaeaf nos Iau, 18 Hydref am 7yh yn y festri yng nghwmni Beti Griffiths.

Y Gymdeithas

NOS Fawrth, 2 Hydref cynhaliwyd noson agoriadol y Gymdeithas yn Festri Bwlchgwynt. Estynnwyd croeso gan Evan Jones, llywydd y nos a braf oedd cael cwmni aelodau o Ofalaeth Caron. Dechreuwyd yn ôl ein harfer trwy ganu ‘Cofia’n gwlad Benllywydd Tirion” i gyfeiliant Alice Jones.

Aeth Evan ymlaen i groesawu a chyflwyno ‘Bois y Rhedyn’, o Landdewi Brefi gyda’u harweinydd Delyth Lloyd Jones. Cafwyd noson o ganu amrywiol ynghyd â sgetshis doniol. Dim byd yn well na digon o chwerthin iach!

Talwyd y diolchiadau gan Evan, gan ddiolch i’r bechgyn a Delyth am noson arbennig. Eiliwyd y diolchiadau gan John Meredith, Blaenpennal.

Cafodd pawb gyfle i gymdeithasu dros baned a lluniaeth ysgafn cyn troi am gartref.

Edrychir ymlaen at groesawu Wyn Gruffydd i’r Gymdeithas ar nos Fawrth, 6 Tachwedd am 7.30yh. Croeso i bawb.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]