THE latest community news from Tregaron

WI

AT the meeting on Wednesday, 9 January, Rhoswen Leonard from Natural Resources Wales joined the group to inform them about ‘New Life for Welsh Raised Bogs’.

New members are always welcome.

Their next meeting is on Wednesday, 13 February, when the speaker will be Di O’Keefe, the founder of West Wales Hedgehog Rescue, Lampeter.

Clwb Cinio

THIRTY-FOUR members attended the lunch on Wednesday, 23 January in Y Talbot and Rev Carwyn Arthur gave a talk about his Christmas visit to Patagonia.

He made it a very interesting afternoon by showing some beautiful slides of the country and explaining the way citizens are required to plant trees on their property.

By improving their surroundings, they change every town into an oasis in an arid land and encourage tourists to visit them.

The next lunch, with bingo, will be at Y Talbot on Wednesday, 27 February; let Delyth know if you would like to attend.

Y Gymdeithas

NOS Fawrth, 8 Ionawr, cynhaliwyd Cyfarfod Dechrau Flwyddyn Bwlchgwynt a chroesawyd pawb i’r festri gan John Lewis.

Cymrwyd rhan gan, Elizabeth Jones, Dilys Jones, Marged Lewis, Nerys Bennett, John Lewis, Delyth Rees a’r Parch Carwyn Arthur.

Diolchodd Glyn Lewis i John am drefnu’r noson, i bawb a gymrodd ran, i Alice Jones am gyfeilio ac yn enwedig am y datganiad hyfryd o’r Meseia ar y piano.

Dymunwyd Blwyddyn Newydd Dda i bawb a mwynhawyd paned a bisgedi wedi’i drefnu gan yr aelodau.

Cynhelir noson agored yng nghwmni Wyn Gruffydd ar nos Fawrth, 5 Chwefror, am 7.30yh.

Merched y Wawr

CYNHALIWYD cinio blynyddol y gangen ar nos Sadwrn, 12 Ionawr, yn ‘Sgubor Teile, Bwlchllan a chafwyd croeso cynnes gan y teulu a’r staff.

Manon Wyn James, y llywydd, croesawodd yr aelodau ynghyd â’r wraig wadd, sef Elin Jones, llywydd y Cynulliad.

Cyn cinio bu tipyn o bendroni gyda’r cwis hwyliog roedd Manon wedi’i baratoi.

Mwynhawyd cinio blasus ac yna aeth Manon ymlaen i gyflwyno Elin gan ddweud ein bod fel cangen yn ymhyfrydu yn ei llwyddiant gwleidyddol a’i hysbrydoliaeth heintus sydd wedi rhoi hyder i ferched gymryd at swyddi blaenllaw.

Llongyfarchodd hi hefyd ar gael ei hethol yn gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Ceredigion 2020.

Roedd gan Elin ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth ers yn ifanc iawn a chafwyd hanes diddorol ganddi o’i thaith gwleidyddol.

Roedd yn ymfalchïo ei bod wedi cynrychioli Ceredigion, sef man ei geni, ers dros 20 mlynedd.

Teimlai’n fraint iddi gynrychioli ardal wledig cefn gwlad Cymru, a chynorthwyo gyda phroblemau sy’n wynebu pobl yn y gymdeithas.

Diddorol oedd clywed am ei phrofiadau fel gweinidog a’r rôl o fod yn lywydd y Cynulliad.

I orffen soniodd am rôl menywod yng Nghymru, a rhoddodd anogaeth i unrhyw ferch i gymryd ar bob cyfle pa bynnag swyddogaeth.

Ar ôl cinio bu tipyn o gystadleuaeth gyda’r aelodau mewn gêm o Fflapiau a baratowyd gan Ffion Medi Lewis Hughes.

Cwis difyr arall a llawer o chwerthin iach!

Enillwyd y gwobrau raffl gan Lisa Jones, Anne Evans, Catherine Hughes a Manon Wyn James.

Diolchwyd i Elin gan Catherine Hughes gan ddiolch iddi am ymuno â’r gangen yn ei phrysurdeb gan gyfeirio ati fel y ddynes fwyaf pwerus yng Nghymru.

Diolchwyd i deulu Sgubor Teile a’r staff am y cinio blasus ac i Nerys am gludo pawb yn ddiogel i Fwlchllan.

Nos Fercher, 6 Chwefror, cynhelir noson ‘Beiciau Gwaed Cymru’ yng nghwmni Graham Jones.

Clwb Cerdded/Walking Club

THE next walk is scheduled for 10 February and has been organised by Edryd Jenkins 01970 890303 and Geoff Davies 01970 625350 / 07975 893532.

Entitled Discover Waterfalls, along with Devil’s Bridge Walking Club.

Even the frequent visitor to the Hafod Estate finds it difficult to tire of this wonderful place.

A gentle walk along woodland paths and past rushing streams will take them to the waterfalls around the Estate, including the spectacular ‘grotto’.

They will see the foundations of the once-stately mansion and cross the newly restored Pont Newydd, which had collapsed after decades of decay.

The walk will last approximately three hours and is graded an Easy walk over a distance of four miles, with an ascent of 250/820ft.

Meet outside the Talbot Hotel at 10.30am or the car park at Hafod Church (GR SN 768736) at 11am.

To become a member of Clwb Cerdded Tregaron Walking Club ring Dafydd the secretary on 01974 298150.

Capel Bwlchgwynt

CYNHELIR Oedfa Gymundeb ddydd Sul, 3 Chwefror, am 5yh a gwasanaethir gan y Bugail.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]