THE latest community news from Tregaron
Clwb Cinio
TWENTY-SEVEN members attended the lunch on Wednesday, 25 September in Y Talbot restaurant.
They had a pleasant meal and the excellent entertainment was provided by Ysgol Henry Richard campws uwchradd.
They gave a varied and talented programme including four songs by a ukulele group, a traditional Welsh folk solo by the only boy participant, clarinet and harp solos and a very moving poem about Tryweryn. Sara Davies accompanyed two girls singing a duet.
The winners of the Urdd Eisteddfod, Parti Llefaru, performed their winning poem.
Everyone enjoyed the afternoon and Gwyneth gave the vote of thanks.
The school Eisteddfod is on Tuesday, 22 and Wednesday, 23 October. All are welcome.
The date of the trip in November has been changed from Thursday, 14 November to Monday, 11 November.
Next month’s lunch is on Wednesday, 23 October. Please let Delyth know if you wish you attend.
Eisteddfod Gadeiriol
CYNHALIWYD Eisteddfod Gadeiriol Tregaron ar benwythnos 8 a 9 Medi yn y Neuadd Goffa.
Braf oedd gweld disgyblion Ysgol Henry Richard yn cefnogi’r adran gyfyngedig ac yn cystadlu ar y nos Wener.
Croesawyd y plant, yr athrawon a’r beirniaid gan y cadeirydd, Cyril Evans.
Llongyfarchiadau mawr i bob un disgybl a ymddangosodd ar y llwyfan - roedd safon eu gwaith yn uchel iawn.
Rydym fel pwyllgor yn ddiolchgar iawn i Dorian Pugh (pennaeth) a’r holl staff am eu parodrwydd i gydweithio a’u cefnogaeth eleni eto.
Beirniaid yr adran gyfyngedig oedd y ddwy chwaer o Fwlchllan sef Meirian Morgan (cerdd) a Meleri Morgan (llên a llefaru).
Dyma ganlyniadau yr adran gyfyngedig Canu Meithrin a Derbyn: 1 Arthur Siôn Evans; Adrodd Meithrin a Derbyn: 1 Nel James; Canu Bl 1 a 2: 1 Annabelle Bulman;
Adrodd Bl 1 a 2: 1 Annabelle Bulman; Canu Bl 3 a 4: 1 Lois Davies; Adrodd Bl 3 a 4: 1 Anni Grug; Barddoniaeth Bl 3 a 4 – ‘Bro / Adref / Ardal’: 1 Twm James; Canu Bl 5 a 6: 1 Ifan Williams.
Adrodd Bl 5 a 6: 1 Ifan Williams; Ysgrif Bl 5 a 6 - Portread ‘Myfi fy Hun’: 1 Macsen Evans.
Darlun - Chwedlau: Y buddugol yn derbyn cwpan her parhaol (i’w gadw am flwyddyn) yn rhoddedig gan Lynda Thomas, Pencarreg a chwpan arian i’w gadw yn rhoddedig gan John Jones, Ffair Rhos: 1 George Lewis.
Cwpan Her Parhaol Cyril Evans (i’w gadw am flwyddyn) i’r unawdydd mwyaf addawol: Mali Jones.
Cwpan Her Parhaol Mair Lloyd-Davies (i’w gadw am flwyddyn) i’r adroddwr mwyaf addawol: Twm James. Braf oedd cael presenoldeb yr Aelod Cynulliad Elin Jones yn ystod y noson.
Dydd Sadwrn cynhaliwyd yr Eisteddfod Agored yng nghwmni’r beirniaid Sue Hughes, Peniel (cerdd) a’r Prifardd Aneirin Karadog, Pontyberem (llefaru/llên).
Yn cyfeilio sesiwn y prynhawn oedd Lona Phillips, Abermagwr a Gareth Wyn, Rhydaman gyda’r hwyr.
Llywydd y dydd oedd Dai Alun Jones Waunfawr, Aberystwyth - Tregaron gynt. Braf oedd cael ei gwmni ynghyd â’i wraig.
Hoffai’r pwyllgor ddiolch o waelod calon i Mr Jones am ei rodd hael tuag at yr Eisteddfod. Gwerthfawrogir hyn yn fawr iawn.
Am yr ail flwyddyn cynhelir Seremoni Tlws yr Ifanc i rai o dan 21 oed yn y prynhawn a diolch yn fawr i Enfys Hatcher Davies, pennaeth yr adran Gymraeg, Ysgol Henry Richard a phrif swyddogion yr ysgol am gymryd gofal o’r seremoni hon.
Cafwyd cystadlu o’r safon uchaf gyda 39 ymgais! Cafodd y beirniad, Aneirin Karadog wres ei draed yn beirniadu’r gystadleuaeth! Yn derbyn y tlws eleni oedd disgybl Bl 11 o Ysgol Bro Teifi sef Brengain Pryderi.
Dim ond 15 oed yw Brengain ac mae’n amlwg fod yna ddyfodol disglair iawn o’i blaen.
Yna yn yr hwyr cynhaliwyd prif seremoni’r dydd, y Cadeirio, a braf oedd gweld bod teilyngdod.
Y bardd buddugol oedd y Prifardd Gwenallt Llwyd Ifan o Dalybont, ond sy’n enedigol o Dregaron.
Canmolwyd gwaith y bardd gan y beirniad ac roedd pawb yn ymfalchïo yn ei lwyddiant. Braf iawn oedd gweld Gwennallt yn cipio’r Gadair, y tro cyntaf iddo wneud yn Nhregaron. Derbyniodd gadair fechan hardd o waith Jeff Jones, Llanafan.
Eirwen James oedd yng ngofal y seremoni a chanwyd y corn gwlad gan Efan Williams. Cyrchwyd y bardd buddugol i’r llwyfan gan Dewi Siôn Evans a Catrin Medi Pugh-Jones ac yn cyfarch roedd Gwion Pugh, Ianto James, Malen Jenkins a Ifan Williams, Ysgol Henry Richard. Canwyd cân y Cadeirio gan Demelza Fish-Jenkins.
Hyfryd oedd croesawi Ben Lake AS Ceredigion; Peter Davies, cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion; Arwel Jones, cadeirydd Cyngor Tref Tregaron; Catherine Hughes, Cynghorydd Sir (Ward Tregaron) a llywydd y Dydd, Dai Alun Jones i fod yn rhan o’r seremoni.
Cafwyd cystadlu da drwy gydol y dydd a bu cystadlu’r nos yn adloniant pur. Cafwyd amrywiaeth o gystadlu. Dymuna’r pwyllgor ddiolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd tuag at y gwobrau ac i bawb am eu gwaith diflino i sicrhau llwyddiant i’r eisteddfod.
Terfynwyd diwrnod llwyddiannus o gystadlu brwd o’r safon uchaf gan Hen Wlad fy Nhadau.
Canlyniadau Cystadlu Agored dydd Sadwrn - Adrodd Cynfod Sylfaen: 1 Elliw Bulman, Caerdydd; Unawd Bl 3 a 4: 1 Ela Gwen, Tregaron; Adrodd Bl 3 a 4: 1 Gwennan Owen, Llanllwni; Unawd unrhyw offeryn cerdd – oed cynradd: 1 Malen Jenkins, Tregaron (telyn); Unawd Bl 5 a 6: 1 Beca Ebenezer, Cwmann; Adrodd Bl 5 a 6: 1 Mari Williams, Tregaron; Canu Emyn - oed cynradd: 1 Fflur Meredith; Unawd Bl 7 i 9: 1 Alwena Mair Owen, Llanllwni; Adrodd Bl 7 i 9: 1 Ioan Mabbutt, Aberystwyth; Unawd Bl 10 i 13: 1 Sara Elan, Cwmann; Adrodd Bl 10 i 13: 1 Zara Evans, Tregaron; Unawd Cerdd Dant Bl 7 i 14: 1 Sara Elan, Cwmann; Unrhyw offeryn cerdd Bl 7 i 13: 1 Alwena Owen, Llanllwni; Canu Emyn Bl 7 i 13: 1 Betrys Llwyd Dafydd, Abermeurig; Darllen darn o’r Ysgrythyr: 1 Catrin Medi Pugh-Jones, Llanbadarn Fawr; Deuawd dan Bl 13: 1 Alwena a Gwennan; Canu Emyn dros 60 oed: 1 Hywel Anwyl, Llanbrynmair; Monolog: 1 Sara Elan, Cwmann; Cân bop / allan o Sioe Gerdd: 1 Sara Davies, Llandysul; Her Adroddiad 18 i 30 oed: 1 Enfys HatcherDavies; Her Unawd 18 i 30 oed: 1 Rhian Griffiths; Adrodd Digri Agored: 1 Mair Jones, Tregaron; Canu Emyn 18 i 60 oed: 1 Elgan Evans; Côr: 1 Merched Soar; Sgen ti Dalent?: 1 Mali Lewis, Llanon; Parti Canu: 1 Soar Bach; Deuawd Agored: 1 Barry Powell a Dewi Siôn; Her Unawd Agored: 1 Aneira Evans, Aberhosan; Her Adroddiad Agored: 1 Enfys HatcherDavies, Llanddewi Brefi; Cenwch i’m yr Hen Ganiadau: 1. Barry Powell, Llanfihangel y Creuddyn.
Dyma ganlyniadau gwaith llenyddol - Y Gadair, ‘Drych’: y Prifardd Gwenallt Llwyd Ifan, Talybont; Tlws yr Ifanc (o dan 21 oed): Brengain Pryderi, Blaen-cil-llech, ger Ffostrasol;
Telyneg ‘Ar Groesffordd’: Grug Muse, Carmel; Englyn ‘Llafn’: Rachel James, Boncath; Stori Fer ‘Cwlwm’: Iona Evans, Pandy Tudur; Llythyr o g?yn at aelod seneddol (Cynulliad neu San Steffan): Trefor Huw Jones, Llanfarian; Sgets addas ar gyfer Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc: Iwan Thomas, Ciliau Aeron; Limrig ‘Y mae rhai sydd y well na’i gilydd’: Iwan Thomas, Ciliau Aeron; Brawddeg Y-MWE-L-I-A-D: Susan Rees, Lledrod; I ddisgyblion oed Uwchradd ‘Noson Mas’: Hanna Parry, Ysgol Bro Teifi; Dysgwyr ‘Agor Drws’: Simon Jones, Y Fenni.
Cwrdd Diolchgarwch
CYNHELIR Cyfarfod Diolchgarwch Bwlchgwynt ar nos Iau, 10 Hydref am 6.30yh, a’r pregethwr gwadd fydd y Parch Watcyn James.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.