THE latest community news from Tregaron
Capel Bwlchgwynt
BORE Sul, 27 Hydref am 10yb cynhelir gwasanaeth dan ofal y Parch Roger Ellis Humphreys.
Cymdeithas y Chwiorydd
NOS Iau, 24 Hydref, cynhelir Swper Cynhaeaf yn y festri am 7yh yng nghwmni’r Prifardd Gwenallt Llwyd Ifan. Cofiwch ddod â llestri!
Cyfarfod Diolchgarwch Teuluol
CYNHALIWYD Cyfarfod Diolchgarwch Teuluol bore Sul, 20 Hydref yn y festri dan ofal y Bugail.
Cyflwynwyd yr emynau gan Gethin Bennett, Ianto James a Daniel Evans. Cafwyd eitem swynol gan blant yr Ysgol Sul i gyfeiliant Catherine Hughes.
Roedd y Bugail yn ddiolchgar iawn i’r nifer oedd wedi dychwelyd eu bocsys anrhegion Operation Christmas Child a dangoswyd fideo fer sydd ar eu gwefan yn dangos y plant yn eu derbyn a’u hagor. Roedd yn emosiynol i weld eu hwynebau yn goleuo lan wrth eu hagor ac mae’n amlwg eu bod yn ddiolchgar iawn am bob anrheg! Mae gennym ni lawer iawn i fod yn ddiolchgar amdano ac mae’n braf cael cyfle i gofio am y rhai sy’n llai ffodus na ni yn ein byd.
I ddilyn cafwyd eitemau hyfryd gan Mabli Dark, Lois Davies ac Anni Grug o’r Clwb Plant dan ofal Alice Jones a’r parti’r bechgyn Gethin a Dafydd Bennett, Cerith Evans, Daniel Evans a Ianto James o’r Clwb Ieuenctid dan ofal Judith Jones.
Casglwyd gan Gwion Jac ac Arthur Siôn a chyfeiliwyd gan Nerys Bennett.
Diolchwyd i bawb am gymryd rhan gan Gareth Jones.
Cymdeithas Hanes
NOS Iau, 31 Hydref, yn Festri Bwlchgwynt am 7.30yh - ‘Cwpwrdd Dillad y Genedl’ - casglu dillad a thecstiliau yn Sain Ffagan gyda Elen Phillips.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.