THE latest community news from Tregaron

Cymdeithas Hanes

NOSON yng nghwmni Dr James January-McCann (Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru) yn sôn am Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru nos Iau, 28 Tachwedd yn Festri Bwlchgwynt am 7.30yh.

Croeso cynnes i bawb.

Capel Bwlchgwynt

DYDD Sadwrn, 30 Tachwedd cynhelir Ffair Nadolig Capel Bwlchgwynt yn y neuadd goffa am 2yp.

Llywydd y prynhawn fydd Jean Davies o Bow Street.

Cynhelir Gwasanaeth Cymun dydd Sul, 1 Rhagfyr am 5yh dan ofal y Bugail.

Y Gymdeithas

AR nos Fawrth, 5 Tachwedd, cynhaliwyd noson gan y Gymdeithas yng nghwmni Megan Lewis, Sarnau. Estynwyd croeso i bawb gan Evan Jones, llywydd y noson, a dechreuwyd yn ôl yr arfer trwy ganu Cofia’n gwlad Benllywydd Tirion i gyfeiliant Alice Jones.

Aeth Evan ymlaen i groesawu a chyflwyno ‘Megan Sarne’ (fel mae pawb yn ei hadnabod). Braf oedd cael cwmni ei rhieni yn ogystal. Roedd Megan yn falch o ddweud fod yna ddwy ‘Megan Sarne’ yn y festri y noson honno wrth gyfeirio at Megan Morris, ei modryb.

Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Llanfihangel y Creuddyn, Ysgol Gyfun Penweddig ac yna graddio ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth.

Mae wrth ei bodd yn barddoni ac fe greodd hanes llynedd wrth ennill y gadair a’r goron yn Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Ceredigion cyn mynd ymlaen i gipio’r goron a’r gadair yn Eisteddfod CFFI Cymru. Hi yw’r person cyntaf i gyflawni’r gamp yma. Roedd wedi dod â chadair Ceredigion a’r goron a enillodd yn y genedlaethol i’w dangos. Bu’n darllen rhai o’i cherddi ac egluro’r cefndir a’i hysgogodd i’w hysgrifennu. Dangosodd hen luniau o ddiwrnod cneifio ar fferm ei theulu ym Mhengraig, Cwmystwyth a’i gymharu gyda llun o ddiwrnod cneifio heddi. Bu’n sôn hefyd am ei diddordeb yn magu a gweithio gyda ch?n defaid Cymreig sy’n agos iawn at ei chalon.

Soniodd fel mae mudiad y Ffermwyr Ifanc wedi chwarae rhan bwysig a blaenllaw yn ei bywyd ac mae’n aelod gweithgar yng nghlwb Trisant lle mae wedi dal llawer o swyddi. Mae hefyd wedi ennill Aelod Iau y Mudiad am y gwaith arbennig mae’n ei gyflawni.

Cafwyd noson ddiddorol a chartrefol iawn yn ei chwmni ac mae’n galondid i wybod fod cefn gwlad Cymru yn ddiogel yn nwylo pobl ifanc fel hyn.

Cyn troi am gartref mwynhawyd paned o de a bisgedi. Edrychir ymlaen yn awr at gael cwmni John Glant a Lisa Griffiths i gynnal noson Nadoligaidd ar nos Fawrth, 3 Rhagfyr.

Merched y Wawr

MAE hi wedi bod yn gyfnod prysur yn y gangen yn ddiweddar gyda’r aelodau yn dod at ei gilydd ar sawl achlysur.

Ar 31 Hydref, aeth nifer dda ohonom i gynnal Cwrdd Diolchgarwch yng Nghartref Bryntirion ac roedd yn bleser fod yng nghwmni’r preswylwyr. Roedd yn hyfryd eu gweld yn mwynhau a chymryd rhan yn y canu i gyfeiliant Catherine Hughes ar y piano. Diolchodd Ann Jones, ein llywydd, i bawb am eu croeso a’u brwdfrydedd. Diolchodd hefyd i’r staff am y te a’r cacennau ar ôl y gwasanaeth.

Yr wythnos ganlynol, dros 20 ohonom yn mentro allan o Dregaron i gynnal ein cyfarfod mis Tachwedd. Cawsom noson arbennig yn ymweld â llyfrgell y dref a’r archifdy yn Aberystwyth. Diolch o galon i Emyr Lloyd, llyfrgellydd, am roi hanes y llyfrgell i ni ac am ein tywys o amgylch yr adeilad.

Yn dilyn y daith, dyma ni’n cael mynd lan llofft i’r archifdy lle roedd Margaret Jones yn disgwyl amdanom. Roedd hithau wedi bod yn brysur iawn yn paratoi ar ein cyfer ac wedi gosod allan amryw o ddogfennau hanesyddol yn ymwneud â Thregaron. Roedd hyn i gyd yn hynod ddiddorol a phawb wedi synnu at y pentwr o wybodaeth sydd ar gael yn yr archifdy. Diolchodd Nerys Williams i Emyr a Margaret ar ran y gangen. Aethom ymlaen i fwyty Byrgyr lle cawsom gyfle i sgwrsio a chymdeithasu ymhellach.

Ar 8 Dachwedd, dyma 10 ohonom yn troi tuag at TyGlyn Aeron i gymryd rhan yn y cwis cenedlaethol. Roedd yn dda gweld fod y gangen wedi medru danfon tri thîm i gystadlu ac er na wnaethom gyrraedd y brig, cafwyd llawer o hwyl wrth ddyfalu rhai o’r atebion.

Ein gwestai yng nghyfarfod mis Rhagfyr yw Glenys Morgan o Benrhyncoch, un o ferched Tregaron. Fe fydd hi yn gwneud arddangosiad o flodau ar gyfer y Nadolig. Cofiwch ddod i’w chefnogi ac i fwynhau paned a danteithion y Nadolig.

Gwasanaeth Pob Oed

CROESAWYD pawb i’r festri ar fore Sul, 17 Tachwedd i Wasanaeth Pob Oed gan y Bugail.

Mae aelodau Gofalaeth Caron wedi casglu 67 o focsys anrhegion i Operation Christmas Child. Gwerthfawrogir caredigrwydd pawb sydd wedi cyfrannu.

Mae plant yr Ysgol Sul yn dilyn stori Daniel ar hyn o bryd a dyma oedd thema’r gwasanaeth.

Rhoddwyd yr emynau allan gan Ianto James, Mabli Dark, Lois Davies a Grug Lewis Hughes.

Darllenwyd gan Ianto James ac offrymwyd gweddi gan Twm James. Cafwyd eitem hyfryd gan y plant yn canu emyn o’r Detholiad newydd ynghyd â chân Ble mae Daniel? a chyfeiliwyd gan Catherine Hughes.

Casglwyd gan Nel James a Gwion Lewis Hughes. Cyfeiliwyd gan Nerys Bennett a diolchwyd i bawb am gymryd rhan gan Gareth Jones.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]