THE latest community news from Tregaron

Capel Bwlchgwynt

CYNHELIR Oedfa Gymun ar ddydd Sul, 5 Ionawr am 10yb dan ofal y Bugail.

Merched y Wawr

AR nos Fercher, 4 Rhagfyr croesawyd yr aelodau gan Ann Jones, y llywydd.

Dymunwyd gwellhad buan i’r aelodau oedd yn anhwylus a dymunodd yn dda i’r aelodau oedd yn dathlu unrhyw achlysur arbennig.

Diolchwyd i’r tri tîm fu’n cystadlu yn y Cwis Hwyl Cenedlaethol yng ngwesty TyGlyn Aeron.

Ar ôl trafod rhai materion, aeth Ann ymlaen i gyflwyno Glenys Morgan o Benrhyncoch, neu Glenys y Bryn, fel mae’n cael ei hadnabod yma yn Nhregaron.

Dywedodd Ann wrth ei chyflwyno fod Glenys yn brofiadol iawn ym myd trefnu blodau.

Mae’n cystadlu mewn amryw o sioeau ac yn llwyddiannus iawn, mae hefyd yn beirniadu ac yn cynnal dosbarthiadau.

Erbyn hyn mae wedi derbyn yr anrhydedd i fod yn gadeirydd ar Glwb NAFAS.

Mae hefyd yn brysur yn ei chymuned yn cefnogi’r holl weithgareddau lleol.

Aeth ati i drefnu gosodiadau hyfryd.

Roedd yn defnyddio deunyddiau wedi eu hail-gylchu ac roedd yn anhygoel mor ddeniadol a thrawiadol oedd y gwaith gorffenedig.

Rhannodd syniadau lu ac roedd yn trefnu’r cyfan mor hamddenol a di-ffws ac roedd y carolau yn y cefndir yn ychwanegu at naws y Nadolig.

Diolchwyd i Glenys gan Margaret Jones, gan nodi ei bod yn feistres ar ei gwaith.

Roedd y gwaith gorffenedig yn werth ei weld ac yn wledd i’r llygad.

Er mai gosod blodau ddangoswyd ar y noson, mae’n dalentog iawn ac yn gallu troi ei llaw at lawer iawn o grefftau.

Gwerthfawrogwyd caredigrwydd Glenys wrth iddi’r gyfrannu’r cyfan i’w rhoi fel gwobrau raffl.

Gorffennwyd gyda phaned o de a mins peis a baratowyd gan aelodau Heol Dewi a Doldre.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]