THE latest community news from Tregaron.
English Methodist Church
THE service on Sunday, 23 October will be held in the Memorial Hall, at 2.30pm and led by the Rev Roger Hides.
The service on Sunday, 30 October will be held at the earlier time of 2pm in Bryntirion Centre.
Capel Bwlchgwynt
BYDD yr oedfa fore Sul, 23 Hydref am 10yb a gwasanaethir gan Walford Gealy.
Cymdeithas Ddiwylliadol
CYNHALIWYD noson agoriadol y gymdeithas ar nos Fawrth, 4 Hydref.
Estynnwyd croeso cynnes i bawb ac yn enwedig i aelodau o gymdeithas Carmel, Llanilar gan lywydd y nos, Catherine Hughes.
Dechreuwyd yn ôl ein harfer trwy ganu ‘Cofia’n gwlad Benllywydd tirion’ i gyfeiliant Alice Jones.
Aeth Catherine ymlaen i groesawu a chyflwyno Côr Lleisiau’r Werin o Lanybydder a’r ardaloedd cyfagos.
Dyma gôr poblogaidd iawn sy’n brysur yn diddanu cymdeithasau ac yn cynnal llawer o gyngherddau safonol.
Fe’u harweiniwyd gan Elonwy Davies a chyfeiliwyd gan Ceinwen Evans.
Cyflwynodd Edith Williams yr eitemau a mwynhawyd gwledd o ganu ag adrodd ganddynt.
Barn pawb oedd ein bod wedi cael noson arbennig i ddechrau gweithgareddau’r gaeaf.
Edrychir ymlaen yn awr at nos Fawrth, 1 Tachwedd pryd cynhelir noson yng nghwmni Hedd Bleddyn, ac estynnir croeso cynnes i bawb.
Merched y Wawr
AR nos Fercher, 5 Hydref cynhaliwyd noson agoriadal y gangen.
Dechreuwyd trwy ganu anthem y mudiad gyda Catherine Hughes yn cyfeilio.
Croesawyd yr aelodau gan Marian Davies ein llywydd am eleni, ag estynnwyd croeso arbennig i aelod newydd.
Braf hefyd oedd cael cwmni aelodau o gangen Llangwyryfon oedd wedi ymuno gyda ni.
Roedd yr adloniant o dan ofal Parti Ffrindiau, a chafwyd noson bleserus yn eu cwmni.
Dyma barti sy’n brysur iawn yn diddanu mewn gwahanol gymdeithasau, a dymunodd Marian yn dda iddynt ar eu taith i Gaeredin yn fuan.
Arweiniwyd y noson gan Bronwen Morgan a chafwyd arlwy o ganu, unawdau, deuawdau a chanu swynol iawn.
Hyfryd oedd gwrando ar ddatganiad ar y delyn gan Nerys Bennett, a chafwyd adroddiad gan Bronwen a braf oedd gael cwmni Gethin a Dafydd Bennett yn adrodd yn ogystal. Gorffennwyd gyda’r parti yn canu medli o emynau.
Talwyd y diolchiadau gan yr is-lywydd, Mared Jones.
Diolchodd yn gyntaf i Barti’r Ffrindiau am ddiddanu a rhoi noson arbennig ar ddechrau’r tymor newydd, ac i aelodau Llangwyryfon am ymuno gyda ni.
Diolchwyd yn ogystal i Lisa Jones am addurno’r llwyfan mor brydferth yn lliwiau’r hydref ac i aelodau’r pwyllgor am baratoi paned o de a lluniaeth ysgafn.
Ar ran aelodau Llangwyryfon diolchwyd am y gwahoddiad a’r croeso gan Mair Jones, ac fel cangen edrychir ymlaen i ymuno â hwy yn Llangwyryfon ddechrau’r flwyddyn nesaf.
Enillwyd gwobrau’r raffl gan Jennie Samuel, Llinos Griffiths a Cyril Evans.
Ar nos Fercher, 2 Tachwedd am 7.30yh cynhelir noson yng ngofal Beti Wyn Davies.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.