THE latest community news from Tregaron.
Clwb Cinio
PLEASE note that this month’s lunch on Wednesday, 22 February, will be in the Bowls Club.Please book with Delyth (01974) 298 593.
Bowling Club
WINNERS of January 300 club were: 191, Jane Hughes; 168, Carys Lewis; 25, Pat Gallagher.
Carnival
THIS year’s carnival will be held on Saturday, 29 July, in the mart.
Bingo Night
TREGARON Show Committee are holding a bingo night in the Rugby Club on Thursday, 16 February, at 7.30pm. Come along and help support the local show.
Capel Bwlchgwynt
CYNHELIR oedfa ddydd Sul, 12 Chwefror, am 10yb dan ofal Huw Roderick.
Merched y Wawr
AR y nos Fercher cyntaf o fis Ionawr roedd aelodau’r gangen yn teimlo’n heini iawn wrth ymweld â’r Ganolfan Hamdden yn Nhregaron.
Croesawyd pawb gan Arwel Jones, William a Stephen Davies, a buont yn dangos y gwahanol gyfleusterau oedd ar gael yno. Mwynhawyd chwarae badminton, tenis bwrdd a bowlio dan do, a bu rhai’n egnïol iawn yn yr Ystafell Ffitrwydd.
Roedd pawb wedi mwynhau a gwerthfawrogwyd paned o de wedi ei baratoi’n garedig iawn gan Arwel a’r staff cyn troi am adre. Diolchwyd i’r tri am y croeso a’r cyfle i ymweld â’r ganolfan gan Glesni Lewis. Bydd aelodau Tregaron yn barod nawr i’r chwaraeon rhanbarthol a gynhelir yn fuan!
Aeth criw o’r aelodau i Aberaeron ar wahoddiad cangen Cylch Aeron. Cafwyd noson ddifyr a chymdeithasol iawn yng nghwmni’r gwr gwadd Sulwyn Thomas. Diolchwyd am y gwahoddiad a’r lluniaeth blasus gan Marian Davies.
Ar nos Fercher, 1 Chwefror, croesawyd yr aelodau gan y llywydd Marian Davies, ac estynnwyd croeso arbennig i Eirian Jones o Bencader.
Mae Eirian yn gweithio gyda Chyngor Sir Ceredigion a hefyd yn wirfoddolwr gyda ‘Diabetes UK’.Roedd yn ddiddorol gwrando arno yn sôn am glefyd y siwgr a’r effaith a wneir ar y claf. Soniodd am y ddau fath sef ‘Teip 1’ a Teip 2’ sydd yn effeithio plant ag oedolion.
Aeth ymlaen i sôn am beth ellir ei wneud i helpu trwy fwyta’n iach a chadw’n heini. Soniodd yn ogystal am y gwaith da mae elusen ‘Diabetes UK’ yn ei wneud. Diolchwyd iddo am noson ddiddorol ac addysgiadol gan Esyllt Evans. Mwynhawyd paned o de a bisgedi a drefnwyd gan Aerona Rees a chriw’r pentre, ac enillwyd y wobr raffl gan Ann Pugh.
Fe fydd y gangen yn dathlu Gwyl Ddewi ar nos Iau, 2 Mawrth, yn y Neuadd Goffa a chofiwch ddod â llestri!
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.