THE latest community news from Tregaron.

Clwb Cinio

LUNCH at Y Talbot on 22 March was attended by 35 members. The excellent entertainment was given by children from Campws Cynradd Tregaron and Llanddewi Brefi. The members enjoyed 11 items which had been prepared for the Urdd Eisteddfod, including one song by all the children and then individual instrumental pieces, singing and poetry items. Two girls displayed a clog dance, there was a poetry party and a group acting a play. Marion Hopkin Williams gave the vote of thanks to the staff and pupils of the schools and also to the staff of Y Talbot. Delyth extended the club’s sympathy to Morfudd on the loss of her sister and a card has been sent. The program details for the rest of the year are as follows: The lunch on Wednesday, 26 April, will be in Y Talbot and Elizabeth and John will be providing the entertainment. If you wish to attend, contact Delyth (01974 298593) and bring your entry for the Pretty Teapot competition. In May, Eirwen James will entertain in the Bowls Club. There is a north-bound mystery trip in June, and in July a lunch out in the Aberaeron area.

Capel Bwlchgwynt

AR fore Sul, 2 Ebrill, am 10yb cynhelir Oedfa Deuluol a gweinyddir y Cymun Sanctaidd yn ystod y gwasanaeth dan ofal y Parch Carwyn Arthur.

Y Gymdeithas

CYNHALIWYD noson i ddathlu Gwyl Ddewi ar nos Fawrth, 28 Chwefror. Croesawyd pawb i’r festri gan lywydd y Gymdeithas, Glyn Lewis. Offrymwyd Gras cyn mynd ymlaen i gael gwledd o gawl, tarten afal a chage bach. Gyda phawb wedi gwneud cyfiawnder o’r wledd gyntaf, aeth Glyn ymlaen i gyflwyno’r ail wledd, sef Efan Williams o Ledrod, sy’n athro wrth ei waith bob dydd. Dyma berson prysur iawn ym myd y canu, yn cystadlu’n llwyddiannus mewn gwahanol eisteddfodau bach a’r Genedlaethol, a hefyd yn beirniadu yn ogystal. Cafwyd ganddo amrywiaeth o ganeuon a braf oedd gwrando ar ei lais cyfoethog gydag Alice Jones yn cyfeilio. Talwyd y diolchiadau gan y Parch Carwyn Arthur, gan ddiolch i Efan am ei gyfraniad gwerthfawr ac i Alice am gyfeilio iddo. Diolchwyd hefyd i’r gwragedd prysur sef Ann Lewis, Margaret Lewis, Lisa Jones, Alice Jones a Dilys Jones a fu’n paratoi’r cawl drwy’r prynhawn. Buont hefyd yn gweini ar y noson ynghyd ag Alicia Arthur a Delyth Rees. Diolch hefyd i John Lewis, Rhydybont am addurno’r byrddau mor hardd gyda chennin pedr. Gorffennwyd y noson gyda phawb yn canu’r Anthem Genedlaethol. Dyma noson olaf y Gymdeithas a diolch i bawb am bob cefnogaeth yn ystod y tymor aeth heibio. Fe fydd gweithgareddau’r gaeaf yn dechrau ym mis Hydref.

Merched y Wawr

NOS Iau, 2 Mawrth oedd noson dathlu Gwyl Ddewi y gangen. Croesawyd pawb i’r neuadd gan y llywydd, Marian Davies. Dechreuwyd trwy ganu anthem y mudiad i gyfeiliant Jane Hughes. Braf oedd cael cwmni criw da o ddysgwyr gyda’u tiwtor Ann Gwynne. Dyma gyfle gwych i gymdeithasu ac ymarfer y Gymraeg. Cath Williams wnaeth offrymu Gras cyn ein bod yn mynd ymlaen i fwynhau gwledd o gawl, tarten afal a chage bach. I ddilyn aeth Marian ymlaen i gyflwyno gwesteion y nos sef Bois ar Wasgar o ardal Dyffryn Cothi. Dyma barti dawnus o fechgyn fu’n aelodau gwerthfawr gyda’r Clwb Ffermwyr Ifanc. Cafwyd amrywiaeth o ganu ganddynt dan arweiniad Eleri Williams ag Elfyn Davies yn cyfeilio. Talwyd y diolchiadau gan Ann Morgan. Diolchodd Ann Gwynne am y gwahoddiad caredig i’r dysgwyr, a falch o ddweud eu bod wedi mwynhau gyda’r gangen. Ar wahoddiad cangen Llangwyryfon aeth criw o’r aelodau i wrando ar Donald Morgan yn sôn am ei brofiad pan fu’n rhan o gynllunio a threfnu’r brif arddangosfa yn Sioe Flodau Chelsea. Cafwyd noson ddiddorol a difyr iawn yn ei gwmni, a diolchwyd am y gwahoddiad a’r croeso cynnes gan Marian Davies. Nos Fercher, 5 Ebrill, am 7.30yh cynhelir noson yng nghwmni Tweli Griffiths.

English Methodist Church

THE service on Sunday, 2 April, will be held in Pantyfedwen Hall, Pontrhydfendigaid at 2.30pm and led by Lavina Porter. A warm welcome to everyone.

Walking Club

THE next walk is scheduled for 8 April and is called ‘Twm Siôn Cat’s Cave – with Devil’s Bridge Walking Club’. Have you ever been to a cave? No! How about visiting the hideout of local Tregaron-born highwayman and outlaw Twm Siôn Cati. Join the modern-day Twm on a journey around the area of his cave, travelling back 400 years in time and get to know the legend of the ‘Robin Hood of Wales’. The walk is graded a grade B – Easy walk which should last approximately three to four hours and is over a distance of seven miles with an ascent of 529m, and the meeting point is at 10.00am outside Y Talbot and the leader is Dafydd Wyn Morgan, 01974 298 150. Should you wish to become a member of Clwb Cerdded Tregaron Walking Club then feel free to give Dafydd the secretary a ring on 01974 298 150.