THE latest community news from Tregaron.
Capel Bwlchgwynt
CYNHELIR te chwiorydd yn y festri prynhawn Iau, 20 Ebrill, am 2yp yng nghwmni Myfanwy Lloyd, Pennant. Croeso cynnes i chi alw fewn am baned a chymdeithasu.
Cynhelir Cymanfa Ganu Glannau Teifi ac Aeron ar ddydd Sul, 23 Ebrill, yng Nghapel Bwlchgwynt. Cyfarfod y plant am 3yp a’r oedolion am 6yh. Yr arweinydd gwadd fydd y Parch Ganon Aled Wyn Williams. Croeso cynnes i bawb.
Merched y Wawr
AR nos Fercher, 3 Ebrill, estynnwyd croeso cynnes i’r aelodau gan y llywydd, Marian Davies. Ddechreuodd trwy gofio am y diweddar Maggie Richards, Crynfrynbychan.
Roedd yn un o’r aelodau cyntaf pan sefydlwyd y gangen, ac fe’i hetholwyd yn drysorydd. Bu’n aelod ffyddlon a gweithgar iawn trwy’r blynyddoedd ac yn brysur yn y gegin ar bob achlysur. Cydymdeimlwyd gyda’i theulu yn eu profedigaeth.
Diolchwyd i’r aelodau a fu’n cystadlu yn y gemau rhanbarthol, ac i bawb a sicrhaodd lwyddiant noson dathlu Gwyl Ddewi y mis cynt.
Croesawyd a chyflwynwyd Tweli Griffiths, sy’n newyddiadurwr adnabyddus ac wedi ymddangos ar raglenni megis ‘Y Dydd’ a’r ‘Byd ar Bedwar’. Cafwyd noson ddiddorol yn ei gwmni yn sôn am ei deithiau i bedwar ban y byd yn hel straeon a newyddion. Soniodd am ddigwyddiadau llon a rhai dipyn fwy lleddf. Cawsom glywed amdano yn cyfarfod enwogion, megis Cyrnol Gadaffi a llawer mwy, ac roedd yn agoriad llygad wrth wrando ar yr holl hanesion. Gellir darllen am y rhain yn ei lyfr ‘Yn ei Chanol Hi’.
Gorffennodd y noson gan ddangos ei sgil fel consuriwr, a difyr oedd ei wylio yn gwneud tric gyda’r cwpan a’r bêl, a chael dwy aelod i ddyfalu cost ei siaced!
Talwyd y diolchiadau gan Lisa Jones, gan ddiolch iddo am ymuno gyda ni ac am rannu ei brofiadau ym myd y teledu a’r radio, hefyd am yr hanesion dirdynnol oedd ganddo wrth ymweld â’r gwahanol wledydd.
Diolchwyd yn ogystal i Jane Hughes a’i chriw o Stryd y Capel a Phenrodyn am baratoi paned, a dymunodd Basg Hapus i bawb. Enillwyd y raffl gan Marga-ret Jenkins. Nos Fercher, 3 Mai bydd y noson yng ngofal Helen Davies yn sôn am Aloe Vera.
English Methodist Church
THE service on Sunday, 23 April, will be held in the Memorial Hall led by the Rev Roger Hides beginning at 2.30pm. A warm welcome to everyone.
Next Sunday’s service will be held in Bryntirion Centre at 2 pm.
Walking Club
THE next walk is scheduled for 6 May and is called ‘Big Welsh Walk’, the legendary TV character that is DCI Mathias.
BigWelshWalk Hinterland Challenge
Ramblers Cymru are organising the #BigWelshWalk this year and it will make the most of the legendary status of DCI Mathias and the award winning S4C/BBC Wales detective series Y Gwyll/Hinterland. Three routes are available and walkers will navigate around these routes and supported by marshals at certain points.
Walkers will be treated to the magnificent landscape of the Devil’s Bridge area, now made famous by the TV series. Don’t forget to catch-up on the legend of Devil’s Bridge too. The challenge and self-guided walks are graded an easy to hard walk which covers five, 10 and 20 miles.
For more details contact [email protected]
Should you wish to become a member of Clwb Cerdded Tregaron Walking Club then please feel free to give Dafydd the secretary a ring on 01974 298150.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.