THE latest community news from Tregaron
English Methodist Church
THE service on Sunday, 26 November, will be held in the Memorial Hall, beginning at 2.30pm and led by the Rev Marty Presdee.
A warm welcome to everyone.
Clwb Cerdded/Walking Club
THE next walk is scheduled for 9 December, and is organised by Avarinah Davies, 01974 298 259.
This is the walk about The Legend of The Elephant.
Tregaron has many myths and legends.
This certainly is one of the main legends that surround this Ceredigion town.
In 1848 a circus visited the town and with it an elephant of the story is recorded in the media of the time.
The walk itself starts at the location where the elephant was given the fateful trunkful of water.
The walk starts from outside Y Talbot at 10am and is to last approximately four hours and is graded a moderate walk with an ascent of 650ft/200m.
Should you wish to become a member of Clwb Cerdded Tregaron Walking Club then please feel free to give Dafydd, the secretary a ring on 01974 298150.
Capel Bwlchgwynt
CYNHELIR Ffair Nadolig Bwlchgwynt yn y Neuadd Goffa ddydd Sadwrn, 25 Tachwedd, rhwng 2yp a 4yp.
Llywydd y prynhawn fydd Mererid Morgan (Trecefel gynt).
Croeso cynnes i bawb.
Fore Sul, 26 Tachwedd, am 10yb cynhelir oedfa dan ofal Huw Roderick.
Oedfa Deuluol
CYNHALIWYD Oedfa Deuluol ar fore Sul, 19 Tachwedd, o dan ofal y Parch Carwyn Arthur.
Ar hyn o bryd mae’r Ysgol Sul yn dilyn hanes Pedr a dyma beth oedd thema’r gwasanaeth.
Cafwyd gwrandawiad astud gan y plant wrth i’r gweinidog ddweud stori Dorcas.
Cyflwynwyd yr emynau gan Dafydd Bennett, Mabli Dark, Anni Grug Lewis-Hughes a Gethin Bennett. Darllenwyd gan Elin Williams a Megan Dark ac offrymwyd gweddi gan Lois Davies.
Canwyd dau emyn o’r Detholiad newydd gan y plant i gyfeiliant Catherine Hughes. Casglwyd gan Ifan Williams ac Osian Jones a chyfeiliwyd gan Gwyneth Davies.
Cyhoeddwyd gan Gareth Jones.
Yn dilyn y daith gerdded i godi arian i Corwynt Cariad cyflwynwyd tystysgrif i Cerith Evans a gasglodd bron i £200.
Llongyfarchiadau mawr i ti Cerith am yr un a gasglodd fwyaf ac am weithio mor galed i gael cymaint o noddwyr.
Y Gymdeithas
AR nos Fawrth, 7 Tachwedd, croesawyd pawb i’r festri gan Glyn Lewis, llywydd y nos, ac estynnwyd croeso arbennig i Erwyd Howells o Gapel Madog i’n plith.
Magwyd Erwyd ym Mhonterwyd a chafwyd noson ddiddorol ac addysgiadol yn ei gwmni yn sôn am ‘Fywyd y Bugail’ ar lethrau Plynlimon a’r ardaloedd cyfagos.
Mae gwreiddiau Erwyd yn ddwfn yng nghefn gwlad Cymru ac mae traddodiadau Cymreig yn agos iawn at ei galon.
Ei waith, ei deulu a’i ffrindiau yw’r pethau pwysicaf yn ei fywyd.
Cafwyd darlun byw iawn o’r hen gymeriadau a fu’n ddylanwad mawr arno, ac roedd yn sôn amdanynt gyda pharch ag edmygedd.
Mae’n hoff iawn o Gwm Elan, a dywedodd nad oes dim byd tebyg na bod gyda’i gi defaid yn bugeilio yn llonyddwch y cwm arbennig yma.
Mae wrth ei fodd yn casglu hen offer amaethyddol, peiriannau, hen arferion traddodiadol a dywediadau, ac roedd wedi dod â llawer o’r hen offer yma i’w harddangos! Yng nghanol y bugeilio mae’n cael ychydig o amser hamdden i fynd o amgylch fel galwr mewn Twmpath Dawns. Yn addas iawn diolchwyd i Erwyd gan Ifan Gruffydd am noson ardderchog! Mae Ifan yn rhannu’r un diddordebau ym myd y Treialon Cwn Defaid. Diolchwyd yn ogystal i Alice Jones am gyfeilio ar y dechrau ac i’r pwyllgor am baratoi paned a bisgedi.
Nos Fawrth, 5 Rhagfyr, cynhelir noson Nadoligaidd dan ofal John Lewis, Rhydybont.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.