THE latest community news from Tregaron
English Methodist Church
THE service on Sunday, 18 February, will be held in the Pantyfedwen hall, Pontrhydfendigaid, beginning at 2.30pm and led by Chris Price.
A warm welcome to you all.
Clwb Cerdded/Walking Club
THE next walk is scheduled for 10 March and has been organised by Rod/Jim 01974 831639.
It then joins a beautiful, rolling section of the coast path back to Aberaeron (for lunch).
Most gradients are gradual but there are some short, steeper sections with rough steps. The going may be muddy and slippery in places.
The meeting point is outside Y Talbot at 9.30am.
The walk is to last approximately three hours and is graded an easy/moderate walk which covers five miles with an ascent of 790ft/240m.
Should you wish to become a member of Clwb Cerdded Tregaron Walking Club then feel free to give Dafydd the secretary a ring on 01974 298150.
Clwb Bowlio/Bowling Club
300 Club winners for January: 173 - Dai Meredith; 60 - Aled Jones; 228 - Ann Evans.
300 Club winners for February: 131 - Ceridwen Richards; 111 - Shirley Lloyd; 44 - John Powell.
Cymdeihas Hanes
NOS Iau, 22 Chwefror, yn Festri Bwlchgwynt am 7.30yh, cyfle i glywed Ifor ap Glyn yn siarad am ‘Y Lôn i Mametz’, hanes Capten Dafydd Jones, Llanio.
Croeso cynnes i bawb.
Capel Bwlchgwynt
FORE Sul, 18 Chwefror, cynhelir Oedfa Deuluol yn y Festri am 10yb dan ofal Parch Carwyn Arthur.
Y Gymdeithas
NOS Fawrth, 6 Chwefror, croesawyd pawb i’r festri gan Catherine Hughes, llywydd y nos.
Dechreuwyd yn ôl ein harfer trwy ganu Cofia’n gwlad Benllywydd Tirion i gyfeiliant Alice Jones.
Estynnwyd croeso cynnes i’r wraig wadd am y nos, sef Lynda Thomas o Fferm Dolgwm Uchaf, Pencarreg, neu fel yr adnabu hi yn lleol gyda ni yn Lynda Trefran.
Mae’n athrawes wrth ei galwedigaeth ac yn dal i wneud ychydig o waith cyflenwi.
Bu’n cystadlu mewn eisteddfodau yn adrodd a chanu ac mae wedi ennill llawer iawn o dlysau.
Mae wedi bod yn hyfforddi plant a phobl ifanc ar hyd y blynyddoedd, hefyd yn beirniadu mewn gwahanol eisteddfodau.
Soniodd am ei phlentyndod a’r atgofion hapus oedd gyda hi o dyfu lan gyda’i brodyr hyd fynd i’r ysgol gynradd yn Llangeitho, Ysgol Uwchradd Tregaron a Choleg y Drindod.
Mae wrth ei bodd gyda gwaith celf ers dyddiau ysgol a dywedodd bod y diweddar Ogwyn Davies ei hathro celf wedi dylanwadu’n fawr ar ei bywyd i ddilyn y trywydd yma.
Roedd ganddi lythyron a dderbyniodd mewn llawysgrifen o law y diweddar Mari James, Cassie Davies a Katie Morris.
Rhoddodd y dasg o ddarllen darn heb atalnodi o waith y diweddar Barch W J Gruffydd a gwnaeth Catherine ac Evan Jones roi cynnig dda i wneud synnwyr o’r darn!
I orffen darllenodd Lynda stori allan o Tomos a Marged, a chafwyd tipyn o chwerthin wrth wrando ar helyntion y ddau gymeriad annwyl yma yn paratoi i groesawu dau bregethwr i aros ar eu haelwyd dros y Sasiwn!
Roedd wedi dod â llawer o lieinau a dillad i’w harddangos o waith ei mham, a chafwyd cyfle ar y diwedd i’w hedmygu.
Diolchwyd iddi am roi o’i hamser ac am rannu’r hanesion difyr gyda ni gan Catherine. Roedd yn noson aeafol y tu allan ac roedd cael paned o de a bisgedi yn dderbyniol iawn cyn troi am gartref.
Ar y nos Iau ganlynol aeth criw da ohonom ar wahoddiad cymdeithas Carmel i Lanilar.
Croesawyd ni a Chymdeithas yr Hebog gan y Cyng Meirion Davies.
Cafwyd cyflwyniad ar Gasgliad y Werin gan Berian Elias o’r Llyfrgell Genedlaethol.
Dangosodd y ffordd i ddigideiddio lluniau ayyb er mwyn i’w rhoi ar y wefan.
Mae hyn yn sicrhau eu bod ar gael ar gof a chadw i’r dyfodol.
Diolchwyd i Berian am y cyflwyniad ac i aelodau Carmel am y croeso cynnes a’r lluniaeth blasus gan y Parch Carwyn Arthur.
Cynhelir noson i ddathlu Gwyl Ddewi yn y festri ar nos Fawrth, 27 Chwefror am 7yh.
Edrychir ymlaen at groesawu Rhiannon Lewis a disgyblion campws uwchradd Ysgol Henry Richard i’n diddori.
Cofiwch ddod â llestri os gwelwch yn dda.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.