THE latest community news from Tregaron
Capel Bwlchgwynt
Gwasanaeth ddydd Sul, 25 Chwefror am 5yh dan ofal y Parch Stuart Bell.
Y Gymdeithas
Cynhelir noson i ddathlu Gwyl Ddewi nos Fawrth, 27 Chwefror am 7yh yn y festri yng nghwmni Rhiannon Lewis a disgyblion Campws Uwchradd Ysgol Henry Richard. Cofiwch ddod â llestri!
Oedfa deuluol
Ar fore Sul, 18 Chwefror croesawyd pawb i’r festri gan y Parch Carwyn Arthur. Ar hyn o bryd mae plant yr Ysgol Sul yn dilyn hanes Noa a dyma beth oedd thema’r gwasanaeth.
Bu’r gweinidog yn dangos ei sgiliau creadigol i greu arch allan o bapur! Dangoswyd ffilm fer o’r arch a adeiladwyd yn Williamstown, Kentucky yn seiliedig ar Arch Noa. Mae’n werth ei gweld ac yn denu nifer fawr o ymwelwyr ers iddi agor yn 2016.
Cyflwynwyd yr emynau gan Megan Dark, Lois Davies, Ianto a Twm James. Darllenwyd o’r ysgrythur gan Gethin a Dafydd Bennett ac offrymwyd gweddi gan Osian Jones.
Casglwyd gan Cerith Evans a Mabli Dark a chyfeiliwyd gan Nerys Bennett.
Cafwyd eitem swynol gan y plant yn canu un o emynau’r Detholiad i gyfeiliant Catherine Hughes. Diolchwyd i’r plant am gymryd rhan ac i’r technegwyr Alicia a Judith gan Gareth Jones.
Bydd yr Ysgol Sul yn cael seibiant byr ac yn ail ddechrau ar brynhawn Sul, 4 Mawrth am 2yp.
Merched y Wawr
Nos Fercher gyntaf ym mis Chwefror croesawyd yr aelodau i’r Neuadd Goffa gan y llywydd, Mared Rand Jones.
Am yr ail fis yn olynol dechreuwyd gyda nodyn trist a chydymdeimlwyd yn ddwys gyda Lisa Jones ar golli ei mam. Bu Cassie Jones yn aelod ffyddlon ers y blynyddoedd cynnar, ac wrth ei bodd gyda holl weithgareddau’r gangen.
Cydymdeimlwyd yn ogystal ag Ann Jones, Tanpica, hithau hefyd wedi colli ei mam yn ystod yr wythnosau diwethaf. Cofion cynnes at y ddau deulu.
Noson o Hawl i Holi a drefnwyd a chroesawyd y panel, Elin Jones AC, llywydd y Cynulliad; Sandra Morris Jones, llywydd cenedlaethol Merched y Wawr; ac Enfys Hatcher Davies, pennaeth yr Adran Gymraeg yn Ysgol Henry Richard.
Y newyddiadurwraig Sara Gibson oedd yn holi ac yn cadw trefn!
Cafwyd noson ddifyr iawn yn eu cwmni yn ateb cwestiynau o bob math yn ymwneud â’r Gwasanaeth Iechyd, cadw’n heini, tân gwyllt a llawer mwy! Talwyd y diolchiadau gan Manon Wyn James, gan gyfeirio atynt fel merched ysbrydoledig llwyddiannus a’u canmol am roi o’u hamser prin i ymuno gyda’r gangen.
Paratowyd paned o de a bisgedi gan Ann Morgan ac aelodau Pwllswyddog a Rhydyfawnog. Enillwyd y wobr raffl gan Aerona Rees.
Nos Fercher, 7 Mawrth cynhelir noson i ddathlu Gwyl Ddewi yn y Neuadd Goffa yng nghwmni Donald Morgan. Cofiwch ddod â llestri!
English Methodist Church
The service on Sunday, 25 February will be held in the Memorial hall, beginning at 2.30pm and led by Rev Roger Hides.
Clwb Cerdded
The next walk is scheduled for 10 March and has been organised by Rod / Jim, 01974 831 639.
It then joins a beautiful, rolling section of the coast path back to Aberaeron (for lunch). Most gradients are gradual but there are some short, steeper sections with rough steps. The going may be muddy and slippery in places.
The meeting point is outside Y Talbot at 9.30am. The walk is to last approximately three hours and is graded an easy/moderate walk which covers five miles with an ascent of 790 ft/ 240m. Should you wish to become a member of Clwb Cerdded Tregaron Walking Club then please feel free to give Dafydd the secretary a ring on 01974 298150.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.